facebook-pixel

Her Dyn(es) Haearn ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Haearn y Byd

Hyd 8, 2024

Yn arwain at Wythnos Ymwybyddiaeth Haearn y Byd – sy’n cychwyn ar 14 Hydref, fe wnaethom partneri gyda Adelé Nicoll, athletwr elitaidd o Gymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd haearn o fewn diet cytbwys ac i arddangos buddion maethol cig coch Cymru fel ffynhonnell wych o haearn. Mae cig coch sy’n cael ei fwydo gan laswellt, fel Cig Oen Cymru PGI, yn gyfoethog mewn protein ac yn llawn maetholion gan gynnwys fitaminau A a B2, calsiwm, ïodin, haearn, magnesiwm, potasiwm a sinc.

Mewn tro cyfrwys ar gystadleuaeth triathlon Dyn Haearn (Ironman), fe wnaethon ni greu ‘Her Fwyd Dyn(es) Haearn’, lle rhoesom y dasg i Adelé o greu tri phryd maethlon gan ddefnyddio’r un toriad o gig oen i ddangos ei hyblygrwydd, gan ddefnyddio stêcs coes Cig Oen Cymru yn yr achos hwn fel sylfaen y tri rysáit. Gydag amserlen hyfforddi ddwys, mae paratoi prydau iach mewn cyfnod byr o amser yn hollbwysig i Adelé ac felly, ar gyfer ei rysáit cyntaf, fe wnaeth gweini pryd fajitas Cig Oen Cymru cyflym a syml. Y pryd canol wythnos berffaith, mae’r rysáit fajita hwn yn wych ar gyfer pan fyddwch angen rhywbeth maethlon – a chyflym!

Gan ei bod yn athletwr rhyngwladol sy’n cystadlu mewn ‘bobsleigh’ a ‘shotput’, mae Adelé yn fwy ymwybodol na’r rhan fwyaf o bwysigrwydd diet iach a chytbwys. Mae haearn yn fwyn sydd ei angen ar y corff ar gyfer sawl rôl wahanol gan gynnwys gwneud celloedd gwaed coch sy’n cludo ocsigen o amgylch y corff ac yn helpu i gynnal system imiwnedd iach.

Mae data’n dangos bod dros dri chwarter o fenywod rhwng 19-64 oed yn cymryd llai na’r swm dyddiol a argymhellir o haearn (76%) gyda 25% yn cael eu heffeithio gan gymeriant haearn isel. Gall lefelau haearn isel effeithio’n sylweddol ar eich bywyd bob dydd – o deimladau o flinder i lefelau egni isel a dygnwch. Ac felly, i athletwyr fel Adelé, mae cael y symiau cywir yn eich diet yn hanfodol.

“Ffordd wych o hybu lefelau haearn yw blaenoriaethu bwydydd llawn haearn yn eich diet. Edrychwch ar ymgorffori mwy o ffynonellau haearn sy’n seiliedig ar anifeiliaid, fel cig coch, yn eich prydau, ynghyd ag opsiynau sy’n seiliedig ar blanhigion fel llysiau gwyrdd deiliog, ffa a chnau. Mae cig coch yn haearn hem, sy’n golygu ei bod hi’n haws i’r corff ei amsugno a bydd yr haearn yn y cig yn helpu i amsugno’r haearn di-haem o ffynonellau sy’n seiliedig ar blanhigion. Mae haearn yn fwyn mor bwysig ac mae’n rhan allweddol o ddiet iach a chytbwys.”

Ail rysáit Adelé oedd un o’i hoff brydau erioed – ramen Cig Oen Cymru. Yn llawn haearn yn ogystal â blas, dyma saig arall y gellir ei hail-greu gartref mewn ychydig iawn o amser ac mae’n ffordd wych o ymgorffori llwyth o lysiau iach yn ystod amser bwyd.

“Gan fy mod wedi cael fy magu yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae Cig Oen Cymru yn cael ei fagu’n gynaliadwy mewn tirweddau unigryw heb eu cyffwrdd. Mae Cig Oen Cymru o ansawdd uchel yn cael ei fagu gan ddefnyddio technegau ffermio traddodiadol, sy’n sicrhau’r safonau uchaf posibl o’r fferm i’r fforc, a dyna pam rwy’n frwd dros gefnogi cynnyrch lleol.”

Ar gyfer ei thrydedd rysáit, a’r olaf, fe wnaeth Adelé ein trin i gyrri Cig Oen Cymru a thatws melys, yn llawn maetholion a’r saig berffaith ar gyfer y nosweithiau hydrefol hyn. Gydag ychydig o baratoi ond yn rhoi’r blas mwyaf danteithiol, mae’r cyri Cig Oen Cymru gartref hwn yn wych i deuluoedd prysur ac athletwyr fel ei gilydd.

Darganfyddwch fwy o ryseitiau Cig Oen Cymru flasus yma, neu ewch i’n tudalennau iechyd pwrpasol i ddysgu mwy am fanteision maethol cig coch Cymru fel rhan o ddiet iach a chytbwys.

Share This