facebook-pixel

Cynheswch eich prydau canol wythnos yr Wythnos Genedlaethol Cyri yma

Hyd 1, 2024

Mae mis Hydref yn nodi’r 26ain Wythnos Genedlaethol Cyri, y byddwn yn ei dathlu rhwng 7fed a 13fed o Hydref. Mae’n cael ei ddweud yn aml mai cyri yw saig genedlaethol newydd Prydain, ac mae’n hawdd gweld pam. O ysgafn a persawrus i danllyd a sbeislyd, mae yna ddysgl gyri at ddant pawb. Ac er y gall llawer ohonom gael ein temtio i archebu tecawê, pa ffordd well o ddathlu na thrwy goginio cyri ein hun o’r dechrau, gan ddefnyddio Cig Oen Cymru PGI blasus neu Gig Eidion Cymru PGI?

Wedi’i ffermio yng nghefn gwlad Cymru, gan ddefnyddio prosesau naturiol sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cynnig blas unigryw o’r ansawdd gorau, gan eu gwneud yn ychwanegiad perffaith i unrhyw noson gyri.

A ydych yn chwilio am bryd ysgafn, sy’n dal i roi blas? Yna beth am roi cynnig ar gyri Keema Cig Oen Cymru. Wedi’i wneud o friwgig Cig Oen Cymru – toriad amlbwrpas dros ben – nid yn unig mae’n sicr o bryfocio’ch blasbwyntiau, ond gellir defnyddio unrhyw fwyd dros ben i greu amrywiaeth o brydau eraill hefyd, gan helpu’ch arian i fynd ymhellach. Neu, os ydych chi’n chwilio am rywbeth sy’n siŵr o blesio’r dorf, beth am roi cynnig ar Tikka Masala Cig Oen Cymru, cyri mwy cymedrol o sbeis ond sy’n sicr yn dal i roi cic! Ac i’r rhai sy’n ei hoffi’n boeth ac yn gallu ymdopi’r gwres, beth am drio Jalfrezi Cig Oen Cymru sbeislyd, yn sicr o ddod â’r tân i unrhyw fwrdd cinio.

Os ydych chi’n bwriadu gweini blas o sbeis gan ddefnyddio Cig Eidion Cymru, yna mae gennym ni’r opsiynau perffaith i chi. I’r rhai sy’n chwilio am rywbeth gydag ychydig o gic, yna mae’r rendang Cig Eidion Cymru hwn yn saig wych i roi cynnig arno gartref. Mae pastau parod ar gael i’w prynu o’r archfarchnad, ond mae’n werth rhoi cynnig ar y rysait llawn ac ni fyddwch chi’n difaru! Dewis arall sy’n blasus ond tanllyd yw’r cyri madras Cig Eidion Cymru hyn. Allwch chi gymryd y gwres?

Dal angen rhywfaint o ysbrydoliaeth? Yna ewch i’n gwefan am amrywiaeth sbeis-taciwlar o awgrymiadau blasus!

Share This