
Ingredients
- 4 siancen Cig Oen Cymru
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 nionyn gwyn, wedi’i dorri’n fân
- 1 moronen – wedi’i dorri’n fân
- 1 coes seleri –wedi’i dorri’n fân
- 3 ewin garlleg – wedi’u malu
- 1 coes rhosmari
- 1 dwrniad bach o deim
- 1 llwy fwrdd o past tomato
- 500ml gwin coch
- 1 litr o stoc cig oen o ansawdd dda
- 375g o crwst pwff llawn menyn wedi’i rholio allan nes ei fod yn 4mm o drwch
- 1 wy – wedi’i curo’n ysgafn
- Blawd plaen i rholio’r crwst
180
Cooking Time
15
Prep Time
4
Serves
Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180 gradd celsiws
Cig Oen:
Sesnwch y siancen gyda halen a phupur
Cynheswch hanner yr olew mewn padell caserol neu sosban ddwfn a browniwch y siancen nes eu bod yn lliw euraidd (tua 6 munud)
Tynnwch y cig oen o'r padell ac ychwanegwch weddill yr olew, y seleri, moronen a'r nionyn ar wres canolig. Pan yn feddal ac yn euraidd, ychwanegwch y past tomato a'r perlysiau (y rhosmari a'r teim), coginiwch y piwri allan am 30 eiliad ac yna ychwanegwch y gwin coch.
Mudferwch am 5-6 funud nes i'r gwin lleihau a'i fod bron a diflannu. Ychwanegwch y stoc a dewch yn ôl i'r ferw, yna rowch eich siancen yn ôl i'r badell.
Rhowch y caead yn ôl ar y badell a rhowch yn y popty am tua 2.5 awr nes i'r cig oen ddod i ffwrdd o'r asgwrn.
Unwaith y bydd wedi'i goginio'n llawn, rhwygwch y cig oddi ar yr asgwrn, a'i dynnu o'r saws.
Lleihewch y saws dris wres canolig nes ei fod yn gyfoethog ac yn drwchus, ychwanegwch y cig yn ôl i mewn a'i droi i'w gyfuno, gwiriwch y sesnin. Yna gadewch i oeri yn yr oergell.
Unwaith bod y llenwad wedi oeri, paratowch y crwst.
Crwst:
Rholiwch y crwst ar wyneb wedi'i ysgeintio â blawd.
Defnyddiwch eich ddysgl pei fel canllaw maint, ac unwaith yr ydych wedi torri'r crwst i maint, Use your pie dish as a guide for size and once cut into a circle, brwsiwch yn ysgafn gyda'r wy sydd wedi'i guro'n ysgafn a gadewch iddo orffwys nes ei fod yn barod i bobi.
Rhowch y cymysgedd cig oen yn eich dysgl pastai, brwsiwch ochrau'r ddysgl gydag wy wedi'i guro'n ysgafn a rhowch y ddisgen ar ei ben gan defnyddio eich bysedd i grimpio'r ochrau.
Gwnewch yn siwr bod y popty wedi'i gynhesu i 200 gradd celsiws. Pobwch eich pastai am 20 - 25 munud nes bod y crwst yn euraidd ac wedi codi.
I weini:
Gweinwch gyda lluysiau gwyrdd wedi'i stemio, bresych coch wedi'i garameleiddio a tatws stwnsh hufennog.