Mae teulu sydd yn ffermio gwartheg ar gyfer bridio yng Ngogledd Cymru wedi amlygu sut mae gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata yn eu helpu i wneud arbedion effeithlonrwydd a bod yn fwy cynaliadwy, wrth reoli eu hôl troed carbon a gwella bioamrywiaeth ar draws eu tir.
Wedi’i leoli ar gyrion Llanrwst mae Moelogan Fawr, fferm 751 erw sy’n magu gwartheg a defaid ucheldirol. Mae’r fferm yn gartref i’r teulu Jones, lle mae tîm gŵr a gwraig, Llion a Sian, yn ogystal â’u tri phlentyn Gwern, Beca ac Annie, yn gofalu am 150 o wartheg Stabiliser a thua 850 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella. Mae’r fferm wedi bod yn nheulu Sian ers 1972 a nhw yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio yma.
“Cyn cymryd drosodd y fferm yn 2018, roeddem yn ffermio ar fferm fechan o 40 erw yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd Llion yn gweithio ar fferm laeth ac roeddwn i’n gweithio yn yr awdurdod lleol fel syrfëwr hefyd. Roedd cychwyn yma yn gam enfawr i ni, gan wneud ffermio yn swydd llawn amser i ni ond mae hwn yn gyfle mor wych i ni a hefyd ein plant,” meddai Sian.
Ers meddiannu’r fferm chwe blynedd yn ôl, mae’r teulu wedi bod yn brysur yn meithrin y tir ac yn gwella bioamrywiaeth ar y fferm. Yn 2018, fe blanwyd 24 erw o goetir ar y fferm, trwy grant Creu Coetir Glastir, sydd wedi arwain at gynyddu’r cynefin ar y fferm a thrwy hynny gynyddu ei wydnwch i newidiadau amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol. Mae’r coetir hefyd yn gwella cysylltedd cynefinoedd ar draws rhannau isaf Moelogan Fawr, gan hybu bioamrywiaeth ar y fferm.
Mae Sian a Llion yn awyddus i fod mor gynaliadwy ac effeithlon â phosibl, sy’n cynnwys chofnodi a mesur eu data fferm yn rheolaidd, gan gynnwys archwiliad carbon, sy’n caniatáu iddynt gael cyngor diriaethol ar sut i leihau eu hôl troed carbon.
“Mae’r wybodaeth o’r archwiliad carbon a’r arolwg bioamrywiaeth wedi ysbrydoli ein penderfyniadau. Er enghraifft, ar y dechrau roedden ni’n tyfu rhygwellt ac yna fe ddechreuon ni edrych i mewn i gynnwys gwndwn llysieuol, a deall beth oedd yn gweithio a ble. Ar y tir isaf mae gennym ni wndwn llysieuol ac maent yn gwneud yn dda iawn yno. Rydym yn dysgu beth sy’n gweithio ar ba faes a sut i ofalu amdano orau. Nid ydym yn ei bori’n rhy galed nes ei fod wedi’i sefydlu’n iawn ac mae hynny’n helpu hefyd. Dyma rai enghreifftiau yn unig o sut yr ydym yn symud tuag at fferm iachach, priddoedd iachach a busnes mwy effeithlon,” ychwanega Sian.
Fel rhan o’u hymdrechion i fod yn fwy effeithlon, mae system bori cylchdro hefyd wedi’i rhoi ar waith, ac mae seilwaith newydd trwy draciau ar draws y fferm yn darparu canlyniadau positif.
“Rydym yn ceisio ymestyn ein tymor pori a magu popeth oddi ar laswellt. Roedd y gwartheg yn arfer dod i mewn tua mis Medi ond nawr rydym wedi gallu ymestyn eu tymor awyr agored tan fis Hydref/Tachwedd. Mae hynny wedi lleihau llety a bwydo dros y gaeaf o ddau fis ac rydym yn gobeithio ymestyn hyn ymhellach. Mae’r buchod yn cael eu pori 100% ar gylchdro yn ystod y tymor pori ac rydym wedi dechrau gweithredu hynny ar gyfer y mamogiaid hefyd,” meddai Llion.
“Mae’n wych gweld sut mae’r system pori newydd wedi ein helpu i fod yn fwy effeithlon a gwella iechyd y pridd hefyd. Trwy’r hafau sych mae hyn wedi bod o gymorth mawr. Mae cofnodi data wedi ein helpu i weld lle mae angen gwneud yr arbedion effeithlonrwydd ac mae lefel y penderfyniadau a yrrir gan ddata yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w wneud,” ychwanegodd Sian.
Wrth siarad am eu nodau cynaliadwyedd, mae Sian a Llion yn glir nid all fod yn fusnes fel arfer.
“Mae cynaladwyedd yn ein llygaid ni yn mynd law yn llaw ag effeithlonrwydd. Gorau po fwyaf effeithlon y gallwn fod – bydd hyn yn gwella ein hôl troed carbon, ac yn ein helpu i gyflawni ein nodau. Rydym yn gweithio tuag at leihau’r mewnbynnau a brynir i mewn, cael ein da byw mor iach â phosibl, defnyddio’r glaswellt, a diogelu’r pridd”, eglurodd Sian.
Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd Hybu Cig Cymru (HCC), sydd wedi bod yn gweithio gyda Sian a Llion ar brosiectau amrywiol:
“Mae ffermydd fel Moelogan Fawr yn gosod y llwyfan ar gyfer arferion ffermio yn y dyfodol. . Mae’n hanfodol bod ffermydd yn croesawu ymchwil a ddatblygiad ac yn cyfuno arferion ffermio traddodiadol â manteision technoleg a data i fod yn gynaliadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol.
“Tra bod effaith amaethyddiaeth ar newid hinsawdd yn parhau i fod yn bwnc llosg, mae’n bwysig cofio bod amrywiadau enfawr yn effaith amgylcheddol gwahanol systemau ffermio ar draws y byd, gyda Chymru yn arbennig o addas ar gyfer magu gwartheg a defaid, fel yr ydym yn gallu gweld yma.
“Mae gan y ffordd Gymreig o ffermio stori wahanol iawn i’w hadrodd o gymharu â rhai o’r systemau dwys a diwydiannol sydd i’w cael mewn rhannau eraill o’r byd. Gyda safonau uchel o hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli tir pori, mae’r teulu Jones yn helpu i warchod ein tirwedd unigryw. Maent yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at liniaru newid yn yr hinsawdd ac yn rheoli eu glaswelltir trwy gyfuno arferion traddodiadol ag arloesi.”
I ddarllen mwy am y Ffordd Gymreig o ffermio, cliciwch yma.