Mynd i'r cynnwys

Empanadas Cig Oen Cymru gyda Saws Pupur a Dresin Mintys gan Bar44

Ingredients

Empanada

  • 8 brwyniaid hallt (bydd jar 100g yn ddelfrydol)
  • Llond llaw o ddail rhosmari
  • Llond llaw o ddail teim
  • Coesyn mintys (wedi’i gadw o’r dresin, gweler isod)
  • 4 ewin garlleg, wedi’u malu a’n torri’n fân
  • Croen 1 lemwn
  • 75ml o olew olewydd
  • 750ml sieri sych
  • 1 ysgwydd cig oen Cymreig, asgwrn i mewn
  • 3 ffyn seleri, wedi’u dorri’n fras
  • 4 moron wedi’u deisio’n fras
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
  • 2 gennin, wedi’u dorri’n fras
  • 1 pen o garlleg, wedi’i dorri mewn hanner yn orweddol
  • 4 deilen llawryf
  • 1 llwy fwrdd piwri tomato
  • 500ml stoc cyw iâr
  • 2 wy, wedi’u guro
  • Crwst pwff wedi’i brynu yn y siop (prynwch ddigon ar gyfer pastai 25 x 32cm)

Saws Pupur Piquillo

  • 1 tin 500g pupur piquillo wedi’u rhostio, wedi’i ddraenio
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
  • 40ml o olew olewydd crai ychwanegol
  • 1 llwy fwrdd o finegr sieri

Y dresin

  • 8 brwyniaid hallt (mae jar 100g yn ddelfrydol)
  • Llond llaw o bersli dail gwastad, dail wedi’u casglu
  • 12 dail mintys (coesyn wedi’i gadw ar gyfer y cig oen)
  • 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
  • 100ml ychwanegol o olew olewydd crai
  • 30ml finegr sieri

330
Cooking Time
120
Prep Time
5+
Serves
Mae Empanadas, er ei fod yn arbenigedd Galisaidd, yn boblogaidd iawn ledled Sbaen. Mae'r fersiwn isod wedi'i llenwi ag ysgwydd cig oen Cymreig sydd wedi’i coginio yn araf. I arbed amser, fedrwch defnyddio toes ‘puff’ sydd wedi’i rholio yn barod ac fe gewch canlyniad gwych (prynwch digon i pastai 25 x 32cm) Mae'r cyfeiliant brwyniaid a mintys yn dod ag elfen hollol wahanol i’r empanada. Y syniad gyda'r rysáit hwn yw ei wneud o'r newydd, ond fe allech chi hefyd ddefnyddio cig oen rhost dros ben o ginio dydd Sul.   Ar gyfer y llenwad cig oen:
  1. Cymysgwch yr brwyniaid, rhosmari, teim, coesyn mintys, garlleg, croen y lemwn, 75ml o'r sieri sych ac olew olewydd mewn prosesydd neu gymysgydd i ffurfio marinâd cig oen gwych.
  2. Tyllwch y cig oen ar ei hyd, yna rhwbiwch y marinâd i mewn gydag awch! Lapiwch y clingfilm a'i roi yn yr oergell dros nos, neu am o leiaf 2 awr.
  3. Cynheswch y popty ymlaen llaw i wyntyll 140◦C.
  4. Rhowch y seleri, moron, nionyn, cennin, garlleg a bae mewn tin rhostio. Ychwanegwch yr holl sieri sy'n weddill. Dadlapiwch y cig oen, ei roi ar ben y llysiau, yna gorchuddio'n dynn â ffoil.
  5. Rhowch y cig oen yn y popty am dair awr a hanner, yna tynnwch y ffoil a'i goginio am awr arall. Dylai fod yn toddi yn dyner ac yn disgyn oddi ar yr asgwrn ar ôl hyn. Tynnwch y cig oen o'r hambwrdd i orffwys ac oeri.
  6. Rhowch yr hambwrdd o lysiau a sudd ar yr hob. Trowch y gwres i ganolig uchel, dewch ag ef i'r berw a'i droi. Ychwanegwch y piwrî tomato, ei droi a'i goginio am 2 funud. Cynheswch y stoc cyw iâr mewn sosban fach, yna ychwanegwch at y llysiau. Wrth ei droi a'i leihau i hanner y saws, dylai gymryd tua 5 munud.
  7. Rhwygwch y cig oen a'i gyfuno â'r cymysgedd llysiau wedi'i leihau.
Empanada:
  1. Cynheswch y popty i 200C ffan / marc nwy 6.
  2. Rholiwch y toes i drwch 5mm neu ¼ modfedd. Leiniwch eich hambwrdd pobi ag ychydig o lard neu olew olewydd. Gosodwch y toes ar y gwaelod, gan orchuddio unrhyw ormodedd dros yr ochrau.
  3. Rhowch y cymysgedd cig oen ar y toes gwaelod a'i orchuddio'n gyfartal.
  4. Ail-wnewch y broses gyda hanner arall y toes a'i roi ar ei ben. Nawr crimpiwch yr ochrau gyda'i gilydd yr holl ffordd o gwmpas, gan selio'n dda.
  5. Brwsiwch frig ac ochrau'r crwst gyda'r wy wedi'i guro.
  6. Pobwch am 40-45 munud, nes ei fod yn lliw euraidd cyfoethog. Tynnwch yr empanada allan a'i adael i orffwys am ddeg munud cyn bwyta gyda’r saws piquillo a'r brwyniaid a'r mintys
Ar gyfer y saws piquillo: Rhowch yr holl gynhwysion mewn cymysgydd a cymysgwch nes bod gennych chi biwrî/saws llyfn. Ar gyfer y dresin brwyniaid: Ar fwrdd torri, torrwch yr ansiofis, persli a mintys. Gallwch chi wneud hyn yn fras neu'n fân iawn, yn dibynnu ar gysondeb y dresin yr hoffech chi. Mewn powlen, ychwanegwch eich holl gynhwysion, cymysgwch yn dda, a gweinwch gyda'r empanada a'r saws piquillo.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025