- Rhowch y briwgig mewn powlen gyda’r mintys wedi’i dorri, y garlleg a’r cwmin. Cymysgwch nes ei fod wedi cyfuno.
- Rholiwch y cymysgedd yn beli bach, tua maint pêl tenis bwrdd.
- Cynheswch lond llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio fawr dros wres canolig. Ffriwch y peli cig am 2 funud nes eu bod yn euraidd drostynt, yna rhowch nhw ar blât.
- Ychwanegwch y winwnsyn i’r badell gyda’r garlleg a’r pupryn, coginiwch am 5 munud nes ei fod wedi meddalu.
- Ychwanegwch y sbeisys, coginiwch y cyfan am 30 eiliad, ac yna ychwanegu’r tomatos. Dewch â’r cyfan i’r berw.
- Ychwanegwch y peli cig i’r badell, gorchuddiwch nhw’n llac, yna gostyngwch y gwres a mudferwch am 15-20 munud nes bod y cig wedi coginio.
- Tynnwch y badell oddi ar y gwres ac yna gwasgarwch y persli, cnau almon a hadau pomgranad dros y peli cig.
- Gweinwch gyda’r dresin iogwrt a’r couscous.
Peli Cig Oen Cymru â sbeisys Morocaidd gan Chris Baber
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 30 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
Ar gyfer y peli cig:
- 500g briwgig Cig Oen Cymru PGI
- Clwstwr bach o fintys, wedi’i dorri’n fân
- 1 ewin garlleg, wedi’i gratio
- ½ llwy de cwmin
Ar gyfer y saws:
- 1 winwnsyn coch, wedi’i dorri’n giwbiau mân
- 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n fân
- 1 pupryn gwyrdd, wedi’i dorri’n giwbiau mân
- 2 x 400g tun tomatos wedi’u torri
- 2 lwy de cwmin
- 1 llwy de paprica mwg
- ½ llwy de sinamon
- Clwstwr bach o bersli, wedi’i dorri’n fân
- 1 llwy fwrdd haenau almwn
- 2 lwy fwrdd hadau pomgranad (dewisol)
Ar gyfer y dresin iogwrt harissa (cymysgwch y cyfan):
- 4 llwy fwrdd iogwrt Groegaidd
- 1 llwy fwrdd past harissa
I weini:
- Couscous