- Tynnwch y stêcs o’r oergell 30 munud cyn eu coginio.
- Gwnewch y saws – rhowch yr olew a’r menyn mewn padell, yna ychwanegwch y winwnsyn a’r madarch a’u ffrio’n ysgafn am 5 munud nes eu bod wedi meddalu.
- Ychwanegwch y blawd a’i gymysgu’n dda am 2 funud, ychwanegwch y gwin a’r brandi’n raddol a dod â’r cyfan i’r berw.
- Ychwanegwch y stoc, y tomatos wedi’u torri, y purée, y sesnin a’r saws Worcestershire. Dewch â’r cyfan i’r berw a’i fudferwi am 5 munud nes bod y saws yn sgleiniog braf ac wedi tewychu. Ychwanegwch y persli wedi’i dorri.
- Tra bod y saws yn mudferwi, coginiwch y stêcs.
- Cynheswch y badell nes ei bod yn boeth, ac ychwanegwch yr olew. Sesnwch y stêcs a’u rhoi yn y badell boeth.
- Coginiwch ar wres uchel am ychydig funudau (at eich dant).
- Trowch y stêcs ac ychwanegwch y menyn. Brasterwch y stêcs tra’n coginio gyda’r menyn wedi toddi a’r olew.
- Coginiwch am 2 funud bob ochr ar gyfer gwaedlyd-canolig (4 munud ar gyfer canolig a 6 munud i’w coginio’n dda).
- Gadewch y stêcs i orffwys am 5 munud.
- Gweinwch y stêcs gyda’r saws Chasseur ar ei phen ac ysgeintiwch ychydig o bersli wedi’i dorri drosti.
Chasseur Stêc Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI (gallwch ddefnyddio stêcs eraill)
- 1 llwy fwrdd olew
- Talp o fenyn
- Sesnin
Ar gyfer y saws:
- 1 llwy fwrdd olew
- 25g menyn
- 6 madarchen ganolig
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 1 llwy fwrdd blawd plaen
- 1 gwydraid gwin coch
- 2 lwy fwrdd brandi
- 200ml stoc cig eidion cyfoethog
- 3 tomato, wedi’u torri
- 1 llwy de purée tomato
- Joch o saws Worcestershire
- Sesnin
- Llond llaw o bersli wedi’i dorri