- Gan ddefnyddio cyllell fara, sleisiwch ar hyd top pob baguette ond heb dorri’r holl ffordd drwodd. Agorwch nhw’n ysgafn.
- Gwnewch y peli cig: Mewn powlen gymysgu fawr, rhowch y briwgig, briwsion bara, y 50g o gaws parmesan wedi’i gratio, oregano, powdr winwns a’r powdr garlleg, sesnin a chymysgu’n ysgafn gyda fforc. Ychwanegwch ddigon o’r cymysgedd wy i’w glymu at ei gilydd.
- Ffurfiwch beli cig maint pêl golff, gadewch i sefyll/oeri am 10 munud.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr a ffriwch y peli cig yn ysgafn i’w lliwio. Arllwyswch y saws tomato drostynt, dewch â’r cyfan i’r berw a mudferwch yn ysgafn heb orchuddio am tua 15 munud nes bod y peli cig wedi coginio a’r saws wedi tewychu.
- I weini, rhowch ychydig o saws i mewn i bob un o’r baguettes, rhowch 3 neu 4 pelen cig ar y top a mwy o’r saws.
- Rhowch y caws wedi’i gratio ar y top.
- Rhowch o dan gril poeth neu bopty poeth am ychydig funudau nes bod y caws wedi toddi.
- Gweinwch wedi’u gwasgaru gyda dail basil.
Baguette peli Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 baguette ganolig
- 450g briwgig Cig Eidion Cymru PGI
- 1 dafell drwchus o fara, wedi’i throi’n friwsion bara
- 50g caws parmesan wedi’i gratio
- 1 llwy de oregano sych
- ½ llwy de powdr winwns
- ½ llwy de powdr garlleg
- Pupur a halen
- 1 wy, wedi’i guro
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 jar saws pasta tomato llyfn
- Mozzarella neu cheddar wedi’i gratio
- Parmesan wedi’i gratio
- Dail basil i addurno