- Tynnwch yr ysgwydd cig oen allan o’r oergell, sesnwch hi’n dda gyda halen ar y ddwy ochr, a gadewch hi am awr neu ddwy ar gownter y gegin i gynhesu.
- Nesaf, browniwch y cig mewn padell ffrio, ar y barbeciw neu o dan y gril, gan ei droi hanner ffordd drwodd i gael rhywfaint o liw ar y ddwy ochr.
- Cynheswch y popty i 160˚C / 140˚C ffan / Nwy 3-4.
- Rhowch yr ysgwydd mewn hambwrdd pobi dwfn.
- Torrwch y llysiau a’u gosod o amgylch y cig oen, arllwyswch y stoc cyw iâr a’r gwin gwyn drosto. Gosodwch yr ansiofis fan hyn a fan draw, malu’r pen garlleg ac ychwanegu’r ewinedd ynghyd â’r perlysiau. Gorchuddiwch â darn arall o bapur pobi, yna dalen o ffoil tun, gan selio’r ochrau’n dynn fel na all lleithder ddianc.
- Rhowch y cyfan yn y popty am tua 4 awr neu nes bod y cig mor frau, y gellir ei rwygo gyda llwy. Gadewch y cig i orffwys, wedi’i orchuddio, am 15 munud cyn ei weini.
- Torrwch a rhwygwch y cig i mewn i’r saws a’i weini gyda llawer o’r grefi, llysiau a rhywbeth i amsugno’r saws.
Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i choginio’n araf gan Julius Roberts
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 4 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1 ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, ar yr asgwrn (tua 2kg)
- 2 genhinen
- 3-4 moronen
- 2 winwnsyn gwyn
- 300ml stoc cyw iâr da
- 1 gwydraid gwin gwyn
- 1 tun ansiofis (dewisol)
- 1 pen garlleg
- Rhosmari
- Teim
- Dail llawryf