
Ingredients
- 1.3kg ysgwydd Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n dalpiau
- 2 lwy fwrdd blawd
- 1 pinsiad halen môr a phupur du
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 2 foronen ganolig, wedi’u torri’n giwbiau mân
- 1 gwythïen seleri, wedi’i thorri’n giwbiau mân
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n giwbiau mân
- 3 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy de rhosmari sych
- 200ml stoc cig oen
- 60ml gwin coch
- 1 llwy fwrdd saws Worcestershire
- 1 llwy fwrdd purée tomato
- Tun 400g tomatos wedi’u torri
300
Cooking Time
10
Prep Time
5+
Serves
Diolch i Hungry Healthy Happy am y rysait
- Mewn powlen fach, cyfunwch y blawd, halen a phupur.
- Ychwanegwch y blawd i’r cig oen wedi'i dorri’n giwbiau mân. Cymysgwch yn dda fel bod yr holl gig oen wedi'i orchuddio.
- Cynheswch yr olew mewn padell ac ychwanegwch y cig oen wedi'i orchuddio. Cynheswch fel bod y cig oen yn frown ar bob ochr, tua 5 munud. Unwaith y bydd wedi brownio, rhowch o'r neilltu.
- Ychwanegwch y moron, y seleri a'r winwnsyn wedi'u torri’n giwbiau mân i'r badell. Coginiwch nes eu bod wedi meddalu, tua 5 munud.
- Ychwanegwch y llysiau meddal i'r popty araf ac yna ychwanegwch y cig oen.
- Ychwanegwch y garlleg, rhosmari, stoc (wedi'i doddi mewn 200ml o ddŵr berwedig), gwin a saws Worcestershire.
- Ychwanegwch y purée tomato a'r tomatos wedi'u torri. Cymysgwch yn dda.
- Coginiwch yn isel am 7 awr neu'n uchel am 5 awr.