- Sesnwch y blawd a’i ddefnyddio i orchuddio’r cig eidion.
- Cynheswch yr olew mewn padell fawr neu ddysgl gaserol wrthfflam a ffrio’r cig eidion mewn 2 swp nes ei fod yn frown. Tynnwch allan o’r badell.
- Ychwanegwch y menyn, y garlleg, y winwns a’r madarch i’r badell a’u ffrio am ychydig funudau. Dychwelwch y cig eidion i’r badell.
- Ychwanegwch y purée tomato, saws Worcestershire, cwrw, stoc, deilen llawryf a pherlysiau. Trowch yn dda a dod â’r cyfan i’r berw.
- Mudferwch y cyfan ar wres isel am awr a hanner nes bod y cig yn frau (tewychwch os oes angen). Tynnwch y caead a gadael iddo oeri ychydig.
- Cynheswch y popty i 200˚C / 180˚C ffan / Nwy 6.
- Rhowch gymysgedd y llenwad i mewn yn y ddysgl bastai.
- Rholiwch y crwst allan ar gyfer top y bastai. Torrwch 4 stribed tenau hir o ymyl y crwst. Brwsiwch ymyl y ddysgl gyda’r ŵy wedi’i guro. Defnyddiwch y stribedi i’w gosod o amgylch ymyl y ddysgl bastai, a’u brwsio ag ŵy.
- Rhowch y crwst dros y llenwad a’r stribedi’n ysgafn. Tociwch unrhyw grwst sy’n hongian dros yr ymyl.
- Gwasgwch a chrimpiwch yr ymylon a defnyddiwch unrhyw grwst sy’n weddill i addurno top y bastai.
- Brwsiwch gyda’r ŵy wedi’i guro a’i roi yn y popty. Pobwch am ryw 25-30 munud nes bod y top yn frown euraidd a bod y llenwad yn chwilboeth.
Pastai stêc Cig Eidion Cymru a chwrw
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 2 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 900g (neu 2 x pecyn 450g) stêc balfais neu stêc stiwio Cig Eidion Cymru PGI wedi’i dorri’n giwbiau bach ymlaen llaw
- 25g blawd
- Pupur a halen
- 2 lwy fwrdd olew
- 25g menyn
- 2 winwnsyn mawr, wedi’u torri’n fras
- 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
- 150g madarch castan, wedi’u chwarteru
- 1 llwy fwrdd saws Worcestershire
- 1 llwy fwrdd purée tomato
- 1 ddeilen llawryf
- 500ml cwrw
- 400ml stoc cig eidion
- Llond llaw o berlysiau ffres e.e. teim, persli, oregano
- 1 pecyn o grwst pwff neu grwst brau
- 1 ŵy, wedi’i guro