facebook-pixel

Cebab shish Cig Oen Cymru gan Hungry Healthy Happy

  • Amser paratoi 1 awr 10 mun
  • Amser coginio 15 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 800g coes Cig Oen Cymru PGI, wedi’i dorri’n dalpiau 4cm
  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 3 llwy fwrdd iogwrt plaen
  • 3 ewin garlleg, wedi’u malu
  • ½ lemon, dim ond y sudd
  • 2 bupryn melys, wedi’u torri’n dalpiau
  • ½ llwy de coriander mâl
  • ½ llwy de cwmin
  • ½ llwy de pupur cayenne
  • ½ llwy de paprica
  • Pinsiad o halen môr a phupur du
  • 10g persli ffres, wedi’i dorri

Dull

Diolch i Hungry Health Happy am y rysait

 

  1. Rhowch yr holl gynhwysion (ac eithrio’r pupurau) mewn powlen a’u cymysgu’n dda.
  2. Rhowch y bowlen yn yr oergell am o leiaf awr, ond dros nos os yn bosibl.
  3. Gwthiwch y cig oen a’r pupurau wedi’u marinadu ar y sgiwerau.

Rhowch nhw o dan gril yn uchel am 15 munud, gan eu troi unwaith hanner ffordd drwodd. Gweinwch nhw’n boeth.

Share This