Ar ôl derbyn pentwr o gynigion tanllyd a thipyn o gnoi cil wrth feirniadu gan yr enwog Chris ‘Flamebaster’ Roberts, rydyn ni’n falch iawn o ddatgelu enillwyr Brechdan i’r Brenin eleni.
Gyda mwy o gategorïau a mwy o wobrau ar gael, mae wedi bod yn gystadleuaeth fwy a mwy swmpus nag erioed! Mae’r ceisiadau wedi bod yn anhygoel, sy’n profi y gallwch chi fod yn greadigol iawn gyda Chig Eidion Cymru blasus.
Felly pwy wnaeth dynnu dŵr i ddannedd Chris eleni…?
Cystadleuaeth y plant (Gwobr: offer coginio gwerth £150)
Enillydd: Mari Davies
‘Stêc Cig Eidion Cymru gyda pesto pistasio cartref, letys, tomatos, halloumi wedi’i ddiferu â mêl lleol mewn bynsen brioche wedi’i thostio.’
Cynnig anarferol (Gwobr: taleb hamper £150 y Clwb Cigyddion)
Enillydd: Batchout, sef Nicky Batchelor
‘Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru gyda saws XO, bresychen hisbi cartref wedi’i phiclo mewn szechuan, melynwy wedi’i halltu mewn tamari, garlleg, sake a mêl, mayonnaise Japaneaidd, sesame du a sialóts crensiog mewn bynsen reis swshi wedi’i gradellu.’
Y defnydd gorau o gynnyrch Cymreig (Gwobr: hamper bwyd a diod o Gymru gwerth £150)
Enillydd: Twm Griff
‘Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru gyda chig moch streipiog crensiog a saws bourbon llus wedi’i lapio mewn crempogau marchruddygl.’
Cynnig Barbeciw (Gwobr: taleb hamper £150 y Clwb Cigyddion)
Enillydd: Oliver Boow
‘Stêc llygad yr asen Cig Eidion Cymru gyda chyw iâr dŵr hallt mewn llaeth enwyn mewn bara cartref.’
Y fideo gorau (Gwobr: taleb hamper £150 y Clwb Cigyddion)
Enillydd: Diane Radford a’i merch Matilda
‘Brechdan stêc Cig Eidion Cymru mewn focaccia ag wy a garlleg.’
A’n prif enillydd, sy’n ennill y cyfle unigryw i Chris ‘Flamebaster’ Roberts goginio gwledd yn ei gartref a barbeciw / Pwll Tân yw…
Prif enillydd: Tân y Ddraig, sef Iestyn Parry
‘Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru wedi’i socian mewn rým gyda cheddar marchruddygl a phersli, gwymon sych mewn ciabatta wedi’i dostio.’
Ffiw! Am griw! Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr a diolch i bawb a gymerodd ran yn ein cystadleuaeth Brechdan i’r Brenin 2.
Cadwch lygad am gystadlaethau eraill ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Cig Oen a Chig Eidion Cymru a hefyd ar e-bost trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr Teulu Cig Oen Cymru.