
Cynhwysion
- 650g ciwbiau Cig Oen Cymru PGI (ysgwydd neu wddf heb esgyrn)
 
I orchuddio’r cig oen:
- 1 llwy de cwmin mâl
 - 1 llwy de coriander mâl
 - 1 llwy de tyrmerig
 - 1 llwy de garam masala
 
Ar gyfer y saws cyri:
- 1 llwy fwrdd olew
 - 1 llwy fwrdd ghee
 - 1 winwnsyn mawr, wedi’i sleisio
 - 3 tsili gwyrdd, heb hadau
 - 2 lwy de sinsir, wedi’i ratio
 - 4 ewin garlleg, wedi’u malu
 - 1 llwy fwrdd garam masala
 - 1 llwy fwrdd tyrmerig
 - 1 llwy fwrdd cwmin mâl
 - 1 llwy fwrdd coriander mâl
 - ½ llwy de halen
 - 1 llwy de siwgr
 - 1 x tun 400g tomatos wedi’u torri
 - 1 llwy fwrdd purée tomato
 - 300ml stoc cig oen neu lysiau
 - 1 llwy fwrdd blawd corn i dewychu (os oes angen)
 - Llysiau i orffen y cyri:
 - 1 llwy fwrdd olew
 - 1 pupur coch, wedi’i sleisio
 - 1 pupur gwyrdd, wedi’i sleisio
 - 1 winwnsyn, wedi’i sleisio
 - Llond llaw o domatos bach, wedi’u haneru, neu 2 domato, wedi’u chwarteru
 
I orffen:
- Iogwrt naturiol
 - Coriander ffres, wedi’i dorri
 
                 105
              
              
                Amser coginio
              
            
                30
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                4
              
              
                   Yn gweini
              
            - Cymysgwch y cwmin mâl, coriander mâl, tyrmerig a garam masala mewn powlen ac ychwanegwch y ciwbiau cig oen. Cymysgwch yn dda i orchuddio'r ciwbiau cig oen a rhowch gaead arnyn nhw. Rhowch nhw yn yr oergell am o leiaf 30 munud.
 - Cynheswch yr olew a'r ghee mewn padell, a ffrio'r ciwbiau cig oen mewn dau swp nes eu bod yn frown. Tynnwch y ciwbiau cig oen allan o'r badell.
 - Yn yr un badell, ychwanegwch y winwnsyn, y tsilis, y garlleg a'r sinsir a'u ffrio am 2 funud nes eu bod wedi brownio'n ysgafn.
 - Dros wres isel, ychwanegwch yr holl sbeisys, halen a siwgr a'u troi am ychydig funudau.
 - Ychwanegwch y tomatos tun, stoc a purée, eu troi'n dda ac ychwanegu'r ciwbiau cig oen a dod â nhw i'r berw.
 - Rhowch gaead ar y badell a'i fudferwi am ryw awr a hanner, neu nes bod y cig oen yn frau.
 - Ddeng munud cyn gweini, ffriwch y pupurau a'r winwnsyn yn yr olew’n gyflym nes eu bod wedi’u golosgi'n ysgafn, yna ychwanegwch y tomatos a'u coginio am ychydig funudau. Cymysgwch y cyfan i mewn i'r cyri ychydig cyn ei weini. Tewychwch os oes angen trwy gymysgu'r blawd corn gydag ychydig o ddŵr a’i ychwanegu at y cyri.
 - Gweinwch gyda thalp o iogwrt naturiol, coriander wedi'i dorri a reis.
 
