- Cynheswch y ffwrn i 190˚C / 170˚C ffan / Nwy 5.
- Cynheswch 1 llwy fwrdd o olew mewn padell ffrio, rhowch y siancod yn y badell a’u sesno. Seriwch y siancod yn gyflym, gan eu brownio drostynt.
- Mewn hambwrdd popty neu ddysgl gaserol ddofn, rhowch yr olew sy’n weddill, y sudd lemwn, garlleg, dail llawryf, oregano, teim, rhosmari, tatws, tomatos, gwin a hanner y caws ffeta. Trowch yn dda. Rhowch y garlleg wedi’i haneru yn yr hambwrdd.
- Rhowch y siancod cig oen ar ei ben a’i orchuddio â ffoil.
- Coginiwch am oddeutu 2 awr – 2 awr 30 munud, yn dibynnu ar faint y siancod.
- Tynnwch y ffoil a’i roi yn ôl yn y popty am 30 munud arall, gan frasteru’r siancod gyda’r sudd.
- Cyn ei weini, rhowch y caws ffeta a’r perlysiau wedi’u torri ar ei ben. Gwasgwch y bylb garlleg i mewn i’r sudd.
- Gweinwch gyda bara crystiog i sugno’r sudd.
Siancod kleftiko Cig Oen Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 3 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 x siancen Cig Oen Cymru PGI
- 3 llwy fwrdd olew olewydd
- Pupur a halen
- Sudd 2 lemon
- 6 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 bylb garlleg, wedi’i haneru
- 4 deilen llawryf
- 1 llwy fwrdd oregano sych
- Sbrigau o deim
- Sbrigau o rosmari
- 600g tatws cwyraidd, wedi’u plicio a’u torri’n dalpiau
- 4 tomato mawr, wedi’u torri’n dalpiau trwchus
- 1 winwnsyn mawr coch, wedi’i sleisio
- 200g caws ffeta, wedi’i falu
- 100ml gwin gwyn sych
I’w weini:
- Perlysiau ffres wedi’u malu