
Ingredients
- 2 rag Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n hanner (3-4 asgwrn y person)
- 1 llond llaw fawr mintys ffres
- 1 llond llaw fawr persli ffres
- 1 ewin garlleg, wedi’i falu
- 1 llwy bwdin caprau bach
- 6 cornichon
- 3 llwy fwrdd olew olewydd
- 2 lemon (croen 2 lemon a sudd 1 lemwn)
- 1 llwy bwdin Bara Lawr Cymreig (PDO)
- 4 llwy fwrdd briwsion bara
- 1 llwy fwrdd olew
- 15g menyn
20
Cooking Time
20
Prep Time
4
Serves
Diolch i Bwyd a Diod Cymru am y rysait.
- Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Crafwch y braster ar y cig oen a’i sesno’n dda. Seriwch y cig oen mewn padell boeth wrthglud nes ei fod yn euraid a’i roi yn y ffwrn am 15 Tynnwch yr oen allan o’r ffwrn a gadewch iddo orffwys am 5 munud.
- Torrwch y mintys, y persli, y garlleg a’r cornichons yn fân a’u rhoi mewn powlen. Ychwanegwch yr olew olewydd, croen 1 lemon, y sudd lemon a’r bara lawr a’i droi. Ychwanegwch bupur a halen at eich dant.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y menyn a’i adael i doddi cyn ychwanegu’r briwsion Taflwch y briwsion bara yn y menyn a’r olew. Coginiwch dros wres canolig nes eu bod yn grimp ac yn euraid. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegwch y croen sy’n weddill (1 lemwn).
- Rhannwch y cytledi a’u gweini gyda’r saws dipio a’r briwsion bara lemwn.