- Cymysgwch yr hadau a’r pupur du a’u taenu ar blat. Rholiwch y lwyn cig oen yn y sbeisys a’i adael i sefyll wrth i chi wneud y dahl.
- Rhowch y corbys mewn sosban, eu gorchuddio â dŵr (tua 4cm uwchben y corbys), eu berwi a mudferwi’n ysgafn. Ychwanegwch y tyrmerig a’r menyn, eu cymysgu, a’u gorchuddio â chaead nes bod y corbys wedi meddalu.
- Tra bo’r corbys yn coginio, rhowch yr hadau cwmin mewn padell a’u ffrio’n sych am ychydig funudau. Tynnwch yr hadau o’r badell. Gan ddefnyddio’r un badell, ychwanegwch yr olew a ffrio’r winwnsyn, y garlleg a’r tsili yn ysgafn am ychydig funudau, cyn ychwanegu’r hadau cwmin a’r garam masala. Yna cymysgwch i fewn i’r gymysgfa corbys.
- Mewn padell arall, cynheswch lond llwy fwrdd o olew, a phan fo’n boeth, ychwanegwch y cig oen a’i serio ar bob ochr, gan wneud yn siŵr nad ydych chi’n llosgi’r sbeisys. Ar ôl serio, ychwanegwch y menyn a pharhau i goginio, gan arllwys y menyn wedi ei doddi fesul llwyaid dros y cig oen. Coginiwch yn ofalus am 8 munud arall neu ei roi mewn tun rhostio bychan mewn ffwrn poeth am 8 munud.
- Gadewch y cig oen i orffwys am o leiaf 5 munud cyn ei dorri’n sleisys, a rhoi pinsiad o halen drosto.
- I weini, cynheswch y chapatis a chymysgwch y tyrmerig i mewn i’r iogwrt. Rhowch y dahl i mewn i 2 bowlen a rhoi’r sleisys cig oen a llond llwy o’r iogwrt ar ei ben.
Lwyn Cig Oen Cymru sbeislyd gyda dahl
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 1 ffiled llygad lwyn Cig Oen Cymru PGI
- 1 llwy fwrdd olew
- Talp bychan o fenyn
- ½ llwy de hadau coriander wedi eu malu
- ½ llwy de hadau ffenigl
- ½ llwy de pupur du wedi ei falu’n fras
- Pinsiad o halen
Ar gyfer y dahl:
- 400g corbys coch, wedi eu rinsio
- 2 lwy de tyrmerig
- 25g menyn
- 2 lwy fwrdd hadau cwmin
- ½ llwy fwrdd olew
- 1 winwnsyn bach, wedi ei dorri’n fân
- 2 ewin garlleg, wedi eu torri’n fân
- 1 tsili gwyrdd, wedi ei dorri’n fân
- 1 llwy de garam masala
I weini:
- Carton bychan o iogwrt naturiol
- ½ llwy de tyrmerig
- Llond llaw o goriander ffres, wedi ei dorri
- Chapatis