- Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C ffan / Nwy 5.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio, ychwanegwch y llysiau a’u ffrio am funud neu ddau nes eu bod yn dechrau brownio.
- Ychwanegwch y sesnin fajita a ffrio am funud.
- Mewn powlen, cymysgwch y ffa a’r passata gyda’i gilydd yn dda.
- Taenwch y tortillas allan ar hambwrdd pobi a’u rhoi’n y ffwrn am 3 munud, i’w crimpio ychydig. Gofalwch rhag eu gor-frownio. Tynnwch nhw allan o’r ffwrn.
- Irwch waelod ac ochrau tun â sbring 20cm neu ddysgl bopty gron yn ysgafn.
- I roi’r bastai at ei gilydd, rhowch un o’r tortillas yng ngwaelod y ddysgl, taenwch lond llwy o’r gymysgedd tomato, rhoi llond llaw o gig eidion, llysiau ac ychydig o gaws ar ei phen, yna rhowch tortilla arall ar ben y cyfan a pharhau gyda’r broses tan i chi orffen gyda’r tortilla olaf ar y top.
- Ysgeintiwch weddill y caws ar y top a rhoi’r cyfan yn y ffwrn am ryw 25 munud tan ei fod yn chwilboeth a’r caws wedi ffurfio arwyneb cras.
- Ysgeintiwch shibwns ar y top a gweini’r cyfan gyda salad gwyrdd.
Pastai enchilada brisged wedi ei rwygo Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 30 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 150g sbarion brisged wedi ei rwygo neu ddarn o Gig Eidion Cymru PGI, wedi ei sleisio’n denau
- 4-5 tortilla blawd canolig
- 1 llwy fwrdd olew
- 1 pupur coch, wedi ei sleisio’n denau
- 1 pupur melyn, wedi ei sleisio’n denau
- 1 winwnsyn coch, wedi ei sleisio
- 2 ewin garlleg, wedi eu plicio a’u malu
- 2 lwy fwrdd sesnin sbeis fajita
- 250g passata
- 1 tun bychan o ffa wedi eu hail-ffrio
- 150g caws, wedi ei ratio (cadwch 100g ar gyfer yr haenen uchaf)