- Cynheswch yr olew mewn padell wrthglud neu wok. Ychwanegwch y stribedi cig oen, y planhigyn wŷ, y winwnsyn a’r madarch a’u coginio, gan eu troi nes bod y cig yn frown. Dylai hyn gymryd tua 6 munud.
- Ychwanegwch y past cyri a’r siytni mango, trowch a choginiwch am 2 funud arall.
- Ychwanegwch y tomato a’r coriander.
- Rhowch y gymysgedd yng nghanol y parseli. Rholiwch a mwynhewch!
Parseli tortilla tikka Cig Oen Cymru
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 10 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 225g stêc coes Cig Oen Cymru PGI, wedi ei sleisio’n denau
- 1 llwy de olew
- ½ planhigyn wŷ, wedi ei sleisio’n denau
- 1 winwnsyn, wedi ei sleisio’n denau
- 3 madarchen, wedi eu sleisio
- 1 llwy fwrdd past cyri mwyn
- 1 llwy fwrdd siytni mango
- 6 tomato, wedi eu chwarteru
- Llond llaw o ddail coriander ffres, wedi eu torri
- 2 tortilla blawd
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1704 KJ
- Calorïau: 406 kcals
- Braster: 14.8 g
- Sy’n dirlenwi: 4.3 g
- Halen: 1.44 g
- Haearn: 5.21 mg