- Ffriwch y mins yn sych tan ei fod wedi brownio a choginio, gan ei gadw mewn talpiau bychain.
- Cynheswch y ffwrn i 200°C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Mewn powlen fechan, cymysgwch y saws coch, y purée a’r perlysiau gyda’i gilydd.
- Rhowch y gwaelodion bara ar hambwrdd pobi mawr. Taenwch ychydig o’r gymysgedd tomato ar bob gwaelod a rhoi’r caws, y mins wedi ei goginio a detholiad o’ch cynhwysion eraill ar eu pennau.
- Rhowch nhw yn y ffwrn am tua 10-12 munud tan bod popeth yn chwilboeth.
Awgrym: Mae hwn yn hwyl i blant ac mae’n ffordd wych o ddefnyddio llysiau dros ben o’r oergell.