- Cynheswch y ffwrn i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
- Rhowch y cig oen, y winwns, y garlleg, y tsili, y sinamon a’r sesnin mewn popty araf neu ddysgl bopty. Cymysgwch y cyfan, cyn ychwanegu’r gwin poeth a’r stoc.
- Gwnewch y bouquet garni trwy glymu’r ffyn sinamon a’r perlysiau ynghyd gyda llinyn.
- Rhowch y bouquet garni yn y ddysgl bopty gyda’r coed anis. Cymysgwch yn dda. Gorchuddiwch gyda chaead a’i roi yn y ffwrn am 1 awr 30 munud – 2 awr tan fod y cig yn eithaf brau (mewn popty araf: 2 awr ar y gosodiad uchel neu 4 awr ar y gosodiad isel).
- Tynnwch y caead ac ychwanegwch y datys, y llugaeron, y tomatos a’r siwgr. Cymysgwch y cyfan yn dda.
- Gorchuddiwch gyda’r caead a’i roi’n ôl yn y ffwrn am 45 munud arall (1 awr yn y popty araf).
- Gweinwch y cyfan gyda thatws stwnsh hufennog.
Awgrym: Mae hwn yn addas i’w goginio yn y ffwrn neu’r popty araf.