Mae’n Wythnos Gyrri ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda’r Cogydd Todiwala, sy’n ffefryn ar sioeau coginio ar y teledu ac sy’n adnabyddus am ei ddawn anhygoel wrth ddefnyddio sbeisys i greu blas.
Mae Cyrus, sydd hefyd yn teimlo’n angerddol na ddylid defnyddio ond y cynhwysion gorau posib, gan gynnwys defnyddio’r cig coch gorau yn y byd, wedi creu Khara Gos Ni Biryani, rysáit Cig Oen Cymru biryani i chi roi cynnig arni gartref.
Dywedodd Cyrus, “Yn ystod rhan helaeth o’m gyrfa, rwyf wedi canolbwyntio ar rannu blas anhygoel bwydydd o India. Mae hyn yn deillio o’r sbeisys sy’n cael eu defnyddio’n ofalus, ynghyd â defnyddio cynhwysion gorau gan gynhyrchwyr lleol a chadw llygad ar ddiogelu’r amgylchedd.
“Rwy’n ymfalchïo ’mod i’n gallu cefnogi diwydiant cig coch y DG yn ystod yr Wythnos Gyrri. Mae’r cyrri cig oen a gafodd ei greu gennyf yn flasus dros ben ac mae’r rysáit yn hawdd iawn ei dilyn. Mae’n berffaith ar gyfer pryd o fwyd ganol-wythnos neu fel rhan o wledd Indiaidd i’w mwynhau gartref.”
Felly, gyda phopeth yn ymwneud â chyrri yr wythnos hon, mae’n esgus perffaith i fod yn frwdfrydig yn y gegin. Gwyliwch y fideo i weld sut mae Cyrus yn mynd ati a gallwch darllen y rysáit yn ei gyfanrwydd yma. Mwynhewch!