Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, pan mae’r tymheredd yn gostwng tu allan, dyma’r bwyd delfrydol i’ch cynhesu ar y tu mewn. Does dim amheuaeth, mae’n flasus, ond yn ogystal, mae’r broses o goginio cyri yn un bleserus. O falu’r sbeisys mewn pestl a morter i’r aroglau arbennig sy’n codi o’r garlleg, sinsir, winwns a tsili gwyrdd wrth ffrio mewn padell, mae’n ffordd wych o arbrofi gyda blasau a gweadau gwahanol.
Felly, i ddathlu 22 mlynedd o Wythnos Genedlaethol Cyri, ac i gydnabod beth mae llawer yn ei ystyried yn hoff fath o fwyd y genedl, rydyn ni wedi paratoi bwydlen o ryseitiau llawn sbeis Cig Eidion PGI a Chig Oen PGI, fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd.
Nid ydym wedi cyfyngu’r ryseitiau i sawsiau cyri yn unig gan fod cymaint o ffyrdd eraill o goginio gyda sbeisys, felly yma cewch bach o bopeth – o seigiau traddodiadol i’r rheiny sy’n llai adnabyddus.
Ydych chi’n dalentog gyda dhansak neu’n benigamp gyda biryani? Rhowch gynnig ar rhain a phrofwch eich sgiliau coginio cyri!
Cyri tatws melys Goaidd gyda Chig Oen Cymru