
Cynhwysion
- 2 Ffolen Cig Oen Cymru PGI, wedi eu trimio
 - 2 lwy fwrdd olew blodau’r haul
 - 150g ffa cannellini sych NEU 1 tun o ffa wedi coginio
 - Bouquet garni (clwstwr o berlysiau wedi eu clymu) o bersli, rhosmari a theim os ydych chi’n coginio’r ffa
 - 2 shibwnsyn
 - 2 ewin garlleg
 - 40g menyn heb halen
 - 150ml hufen dwbl
 - Ambell sbrigyn o daragon
 - Gwydraid o win gwyn
 - Pupur a halen
 - 100ml stoc cyw iâr
 
                 30
              
              
                Amser coginio
              
            
                20
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                2
              
              
                   Yn gweini
              
            - Os yn defnyddio ffa sych, dilyn cyfarwyddiadau’r pecyn a’u coginio gyda bouquet garni cartref o bersli, rhosmari a theim.
 - Rhagdwymo’r ffwrn i 220ºC / 200ºC ffan / Marc Nwy 7.
 - Twymo olew blodau’r haul mewn padell ffrio y gellir ei rhoi mewn ffwrn a rhoi’r ffolenni i mewn i’r olew poeth gyda’r braster yn wynebu i lawr. Eu coginio am ryw 2 funud, cyn eu troi, ychwanegu pupur a halen a choginio am funud arall, yna eu rhoi yn y ffwrn am 8 – 10 munud.
 - Yn y cyfamser, plicio a thorri’r shibwns a’r garlleg yn fân. Toddi’r menyn mewn sosban a choginio’r shibwns a’r garlleg yn ysgafn gyda phinsiad o halen tan eu bod yn feddal.
 - Draenio’r ffa a’u hychwanegu at y shibwns a’r garlleg cyn arllwys yr hufen dros y cyfan.
 - Torri’r dail taragon yn ofalus a’u hychwanegu at y ffa hufennog, cyn ychwanegu pupur a halen at eich dant. Mudferwsi ar dymheredd isel tan ei fod ychydig yn drwchus.
 - Edrych ar y ffolenni, a phan maen nhw wedi coginio, eu rhoi ar blat cynnes i orffwys yn y ffwrn am o leiaf 10 munud (gan sicrhau bod y ffwrn wedi diffodd fel nad yw’r cig yn coginio).
 - Draenio’r braster o’r badell ffrio a’i rhoi’n ôl ar wres canolig. Ychwanegu’r gwin gwyn ac ambell lwyaid o stoc cyw iâr. Pan mae’n coginio, cymysgu a chrafu’r suddion o ochr y badell a’i dewhau tan ei fod ychydig yn drwchus.
 - Unwaith i’r ffa dewychu, torri’r ffolenni a’u rhoi ar y plat. Arllwys y suddion o’r badell ffrio dros y cig oen a’r ffa.
 
