Skip to content

Byrgyrs Cig Oen Cymru gyda thomen o gaws pob

Ingredients

  • 450g briwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
  • Pupur a halen
  • 1 winwnsyn bach, wedi’i dorri’n fân
  • 2 lwy de mwstard Seisnig
Ar gyfer y caws pob:
  • 2 lwy de mwstard Seisnig
  • 100g caws Cheddar aeddfed, wedi’i ratio
  • 2-3 llwy fwrdd cwrw

15
Cooking Time
15
Prep Time
4
Serves
  1. Rhowch y briwgig oen, pupur a halen, y winwnsyn a’r mwstard mewn powlen fawr. Cymysgwch y cyfan yn drylwyr.
  2. Rhannwch y gymysgedd a’i siapio’n bedwar byrger. Rhowch ffoil ym mhadell y gril, a choginiwch y byrgers am ryw 12 munud tan eu bod yn frown euraidd ac wedi’u coginio’n drylwyr.
  3. Gwnewch y caws pob trwy gymysgu’r mwstard, y caws a’r cwrw.
  4. Rhyw funud neu ddau cyn gorffen coginio, rhowch y caws pob ar ben pob byrger a’i adael i doddi’n hyfryd. Casglwch unrhyw sudd ar waelod y gril a’i dywallt dros y byrgyrs.
  5. Gweinwch gyda sglodion trwchus a salad tymhorol neu golslo.

© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025