- Arllwyswch olew ar sleisys o fara surdoes a rhwbio’r garlleg ffres arno i roi rhyw awgrym bach, ac yna ei roi i un ochr nes bod y stêc wedi’i choginio.
- Yn y cyfamser, rhwbiwch y stêcs gyda’r rhosmari ffres, un ewin garlleg, y cwmin a phinsiad da o halen a phupur du ffres a llond llwy de o olew. Rhwbiwch i mewn i’r stêcs a’u gadael ar yr ochr am 2 awr i ddod i dymheredd yr ystafell.
- Coginiwch y stêcs at eich dant ar radell danbaid ac yna gorffwyswch y cig. Tra bod y cig yn gorffwys, golosgwch sleisys trwchus o’r shibwns.
- Gan ddefnyddio’r bara surdoes, mopiwch y suddion o’r stêc ac yna golosgwch y tu mewn i’r bara.
- Nesaf, malwch yr afocado’n fras gyda phestl a morter, ychwanegwch y leim a’r tsili ffres a phinsiad o halen.
- Ar gyfer y saws crème fraiche masarn a chipotle, cymysgwch y cynhwysion i gyd gyda’i gilydd.
- I adeiladu’r frechdan, taenwch haenen dda o’r gymysgedd afocado ar waelod y frechdan, yna ychydig o ddail berwr y gerddi bob yn ail gyda haenau o sleisys o’r stêc a’r shibwns.
- Unwaith i chi orchuddio’r gwaelod rhowch ambell lwyaid o afocado ar y cig a malu’r caws glas yn fras ar ei ben.
- Yn olaf, arllwyswch y saws chipotle ar ben y cyfan yn ysgafn a rhowch unrhyw saws sydd dros ben i’r naill ochr er mwyn ei ychwanegu wrth fwyta. Mae hon yn frechdan wych i’w rhannu!
Brechdan stêc chipotle Cig Eidion Cymru gydag afocado wedi’i falu y Migrating Chef
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 1
Bydd angen
- 2 stêc bavette Cig Eidion Cymru PGI, 200g yr un
- 500g torth surdoes
- Olew
- Garlleg
- 2 shibwnsyn
- 1 afocado mawr, wedi’i falu
- ½ leim, sudd a chroen
- ⅓ tsili ffres, wedi ei dorri
- 125g caws glas
- Llond llaw o ddail berwr y gerddi
- Clwstwr bach o goriander
- 2 lwy de rhosmari ffres
- 2 lwy de teim ffres
- 1 llwy de cwmin
- Halen a phupur du ffres
- Ar gyfer y saws:
- 3 llwy fwrdd crème fraiche
- 2 lwy de surop masarn
- 1 llwy de paprica wedi’i fygu
- ½ llwy de powdr tsili
- ¼ llwy de powdr chipotle
- 2 lwy de sudd leim