
Cynhwysion
- 2 stêc syrlwyn Cig Eidion Wagyu Cymru PGI
4 tomato mawr, wedi eu torri’n ddarnau a thynnu’r hadau - Powdr ansiofi wedi sychu
Powdr gwymon delysg wedi sychu 
1 melynwy
½ llwy de mwstard Dijon
- ½ llwy de finegr gwin gwyn
 - Olew siarcol neu olew ansiofi
 - Mefus gwyrdd, wedi eu sleisio’n denau
 - Cennin y môr wedi eu fforio mewn dŵr halen neu gennin bach neu gaprau
 - Dail dant y llew
 - Menyn
 - Halen
 
Ar gyfer y dŵr halen
- 3ltr dŵr
 - 300g halen môr Maldon
 - 200g siwgr
 
                 40
              
              
                Amser coginio
              
            
                20
              
              
                  Amser paratoi 
              
            
                2
              
              
                   Yn gweini
              
            - Er mwyn halltu’r cig eidion a’r cennin, rhoi’r holl gynhwysion mewn i badell a’i thwymo i doddi’r siwgr a’r halen. Gadael y cyfan i oeri ac yna trochi’r cynhwysion yn y dŵr halen er mwyn cwblhau’r broses. Dylid gadael y cig eidion yn y dŵr halen am o leiaf awr cyn coginio. Dylid gadael y cennin mewn dŵr halen am o leiaf wythnos (cafodd y rhai yn y rysáit eu gadael mewn dŵr halen am ddau fis). Fel arall, defnyddio caprau yn lle cennin.
 - Ar gyfer y powdr ansiofi wedi sychu a’r powdr gwymon delysg, rhagdwymo’r popty i 70ºC a’u coginio tan eu bod yn sych ac yn grimp. Pan maen nhw wedi oeri, eu rhoi mewn pestl a mortar a’u malu i mewn i bowdr. Gellir gwneud faint fynnir ac mae’n ddewis amgen gwych yn lle halen.
 - Gan ddefnyddio un ai fflam nwy neu lamp losgi, rhoi tomato ar sgiwer i dduo’r croen. Pan fo’n ddu, ei ollwng i mewn i ddŵr iâ a’i rwbio’n ysgafn i dynnu’r croen. Gwneud yr un fath gyda’r tomatos eraill.
 - Tynnu’r hadau a thorri’r tomatos yn ddarnau, eu rhoi ar hambwrdd ac ychwanegu halen. Eu rhoi o’r neilltu am 10-15 munud. Os yn defnyddio barbeciw, mae angen cadw darnau’r tomatos yn fawr.
 - Ar gyfer y bath dŵr, pecynnu’r cig eidion mewn gwactod a’i goginio am 12 munud ar 62ºC. Neu, ei roi ar y barbeciw am 4 munud bob ochr i selio a llosgi’n braf. Ar ôl ei dynnu oddi ar y barbeciw, ei adael i orffwys am 10 munud.
 - Mewn powlen gymysgu, ychwanegu’r melynwy, mwstard Dijon a finegr a chwisgio. Wrth chwisgio, ychwanegu’r olew siarcol yn ofalus ac yn araf – tan fod y mayonnaise wedi emylsio a thewychu. Unwaith iddo dewychu, ei roi mewn bag peipio yn yr oergell. Neu, gellir defnyddio’r olew o’r ansiofis i greu mayonnaise ansiofi.
 - Sychu’r cennin yn dyner a’u sleisio.
 - I losgi’r tomatos, defnyddio’r fflam nwy neu lamp losgi tan bod yr ymylon yn dechrau llosgi, neu eu rhoi ar y barbeciw i gael blas mwg.
 - Ar ôl 12 munud yn y bath dŵr, rhoi’r cig eidion mewn padell boeth am 4 munud, ei droi o dro i dro tan fod y ddwy ochr wedi carameleiddio. Rhoi menyn drosto a’i adael i orffwys.
 - Sleisio’r mefus gwyrdd yn denau, a rhoi’r powdr gwymon delysg drostynt.
 - Pan fo’r cig eidion wedi gorffwys, rhoi’r tomatos wedi llosgi ar blat ac addurno gyda’r mayonnaise, cennin a chig eidion wedi sleisio. Ychwanegu’r powdr ansiofi.
 - Arllwys suddion y cig eidion dros y dail dant y llew a rhoi’r dail a’r mefus wedi sleisio ar ben y cig eidion. Gorffen trwy roi’r powdr gwymon delysg dros y cyfan.
 
