
Cynhwysion
- 800g o Gig Eidion Cymru PGI i’w stiwio, wedi’i ddeisio’n ddarnau mawr
- 1 llwy fwrdd o olew ar gyfer ffrio
- 4 deilen leim kaffir (sych)
- 2 coeden anis
- 2 ffon o sinamon
- 8 clof
- 1 tun o laeth cnau coco
- 200ml o ddŵr
- Sudd un lemwn
- 1 llwy fwrdd o siwgr brown tywyll
- 4 llwy fwrdd o gnau coco wedi’u
Ar gyfer y past Rendang:
- 1 nionyn, wedi’i dorri’n fras
- 2 tsili coch mawr, hadau wedi’u tynnu a’u torri
- 6 ewin garlleg, wedi’u torri
- Darn 2.5 cm sinsir ffres, wedi’i dorri
- ½ llwy de o bowdr sinsir
- 1 llwy fwrdd o bowdr coriander
- 1 llwy de o bowdr cumin
- 1 llwy de o bupur du
- ½ llwy de o halen
- 1 llwy de o bast lemongrass
- Ychydig o ddŵr
150
Amser coginio
30
Amser paratoi
4
Yn gweini
Gallwch brynu pâst Rendang parod, neu roi cynnig ar wneud eich pâst eich hun. Mae'n hawdd iawn i'w wneud, a bydd gennych y rhan fwyaf o'r cynhwysion yn eich cwpwrdd storio yn barod!
- Gwnewch y pâst trwy roi'r holl gynhwysion mewn prosesydd bwyd a chymysgu'r cyfan i greu pâst llyfn.
- Tostiwch y cnau coco trwy eu gosod mewn padell ffrio sych a'u cynhesu, gan eu troi'n ddi-baid hyd nes y byddant yn troi'n lliw brown, euraid.
- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio fawr neu ddysgl caserol. Ychwanegwch y coed anis, y ffyn sinamon a'r clofau a'u gadael i ffrio am funud ar wres canolig.
- Ychwanegwch y pâst a'r dail leim kaffirat y badell a'u troi am rai munudau.
- Ychwanegwch y cig eidion, y llaeth cnau coco a'r dŵr at y cymysgedd a dewch ag ef i'r berw, cyn gostwng y gwres a'i goginio am 1 awr a hanner i 2 awr.
- Ychwanegwch y siwgr, y sudd lemwn a 3 llwy fwrdd o'r cnau coco wedi'u tostio. Cymysgwch y cyfan cyn ei orchuddio â chaead a'i goginio am tua 30 munud. Ewch ati i'w droi bob hyn a hyn, a hynny hyd nes y bydd y cig yn dyner a'r pâst yn gymharol sych.
- Gweinir gyda phinsiad o'r cnau coco sy'n weddill. Pryd delfrydol i'w weini gyda reis wedi'i goginio, a salad tomato a choriander.
