- Gwresogwch yr olew mewn padell ffrio. Ffriwch y cennin a’r winwns yn ysgafn hyd nes iddynt liwio.
- Ychwanegwch y cig oen a’r stoc. Poethwch hyd nes bo’r cig yn chwilboeth. Trosglwyddwch y cymysgedd i ddysgl bopty.
- Gorlapiwch y tatws wedi’u sleisio o gwmpas ymyl y ddysgl.
I wneud y caws pob:
- Cyfunwch y caws, y mwstard a’r cwrw i ffurfio past trwchus.
- Taenwch y past dros y tatws. Gosodwch o dan y gril am 10 munud, hyd nes iddo droi’n euraidd.