-
Amser paratoi
20 mun
-
Amser coginio
40 mun
-
Ar gyfer
5+
Bydd angen
- 400g o friwgig Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 250g o friwgig porc heb lawer o fraster
- 250g o afu Cig Oen Cymru PGI, wedi’i falu neu ei guro mewn prosesydd bwyd
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 170g o gymysgedd stwffin saets a winwns
- Pupur du
- ½ llwy de o fês mâl
- ½ llwy de o saets mâl
- Blawd i siapio
- 1 winwnsyn, wedi’i dafellu
- 1 llwy fwrdd o finegr balsamig
- 50ml o ddŵr neu stoc llysiau
- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
- Rhowch ychydig o olew mewn tun rhostio neu ddysgl dal gwres.
- Cymysgwch friwgig y cig oen, y porc, yr afu a’r winwnsyn ynghyd. Ychwanegwch y cynhwysion sych a’u cymysgu’n dda.
- Er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon ar y blas, gellwch ffrio gwerth llwy de o’r cymysgedd mewn padell tan ei fod wedi’i goginio, gan ei flasu a’i addasu, os bydd angen.
- Gan ddefnyddio ychydig o flawd plaen i’ch helpu, siapiwch y cymysgedd yn beli gweddol fawr, gan greu tua 8-10.
- Rhowch y peli yn y tun a baratowyd a gwasgaru’r winwnsyn a dafellwyd. Cymysgwch y finegr balsamig yn y stoc a’i arllwys i’r tun.
- Coginiwch am 15-20 munud.
- Tynnwch y ffagots o’r popty a’u gorchuddio â ffoil, cyn eu rhoi yn ôl yn y popty am 20 munud arall.
- Yn flasus wedi’u gweini gyda thatws stwnsh hufennog, pys stwnsh a grefi winwns.