- I wneud y saws: cynheswch yr olew mewn padell a ffrio’r winwnsyn am rai munudau tan y bydd yn meddalu ac yn dechrau newid ei liw. Ychwanegwch y garlleg a’r sinsir a’u coginio am rai munudau.
- Ychwanegwch y powdr cyrri a’r blawd a’u cymysgu am funud. Yn araf, ychwanegwch y stoc, gan droi’r gymysgedd yn ddi-baid er mwyn osgoi lympiau.
- Ychwanegwch y mêl a’r saws soi. Dewch â’r cymysgedd i’r berw a’i adael i fudferwi am 10 munud. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu rhagor o ddŵr os bydd y cymysgedd yn eithaf trwchus. Os ydych am gael saws llyfn, defnyddiwch flendiwr.
- Cymerwch y stêcs allan o’r oergell 20 munud cyn coginio.
- Rhowch y blawd, yr wy a’r briwsion bara mewn tair powlen neu blât bas gwahanol.
- Dipiwch y stêcs eidion yn y blawd, yna yn yr wy, ac yn olaf yn y briwsion bara, gan sicrhau eu bod wedi’u gorchuddio i gyd. I’w coginio, cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio’r stêcs eidion ar wres isel-canolig – tua 4-5 munud ar bob ochr. Gorffwyswch am 5 munud cyn ei sleisio.
- I’w coginio, cynheswch yr olew ychydig mewn padell ffrio a choginio’r stêcs eidion ar wres isel-canolig – tua 4-5 munud ar bob ochr. Gorffwyswch am 5 munud cyn ei sleisio.
- Gweinwch y cig gyda reis gludiog a’r saws cyrri katsu blasus, ynghyd â salad crensiog neu golslo hyfryd.
Katsu Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 stecen Cig Eidion Cymru PGI, wedi’i sleisio yn denau
- 75g o flawd plaen, wedi’i flasuso
- 1 wy mawr, wedi’i guro
- 75g o friwsion bara panko (neu gallwch wneud eich briwsion bara eich hun)
- 25g o friwsion bara euraid
- Olew ar gyfer ffrio bas
Ar gyfer y saws
- 1 llwy de o olew llysiau
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fân
- 2.5cm o wreiddyn sinsir ffres, wedi’i gratio
- 2 ewin garlleg, wedi’u malu
- 1 llwy fwrdd o bowdr cyrri cymedrol ei sbeis
- 2 lwy fwrdd o flawd plaen
- 250ml o stoc cyw iâr
- 1 llwy fwrdd o saws soi
- 1 llwy fwrdd o fêl
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1511 KJ
- Calorïau: 358 kcals
- Braster: 10.2 g
- Sy’n dirlenwi: 2.7 g
- Halen: 1.4 g
- Haearn: 3.6 mg
- Sinc: 4.6 mg
- Protein: 30 g
- Ffeibr: 2.2 g
- Carbohydradau: 39.3 g
- Sy’n siwgro: 7.2 g