- Cynheswch yr olew mewn padell ffrio dros wres canolog, cyn ychwanegu’r winwns ac yna’r garlleg, a’u coginio tan y byddan nhw’n feddal. Ychwanegwch y briwgig o gig eidion a’i droi yn y badell tan y bydd wedi brownio i gyd. Yna ychwanegwch weddill y cynhwysion (o’r saws Worcester i’r halen a phupur). Trowch y gwres yn is a gadael popeth i fudferwi am rhyw 25 munud tan y bydd y saws wedi tewychu.
- Leiniwch ddysgl sy’n addas i’r ffwrn gyda phapur gwrthsaim. Gwasgarwch lond dwrn o’r caws ym mhob tortilla a rhoi’r cymysgedd cig eidion ar ben y caws. Plygwch bob tortilla i greu pecyn a’u rhoi yn y ddysgl i fynd i’r ffwrn. Gadewch fymryn o’r saws ar ôl i’w daenu dros y tortillas cyn rhoi gweddill y caws wedi’i gratio ar eu pen.
- Pobwch yn y ffwrn am 20 munud ar 180°C / 160°C ffan / Nwy 4. Gwasgarwch y sibols dros y cyfan, cyn gweini’r tortillas â salad gwyrdd.
Enchiladas Cig Eidion Cymru
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 45 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 500g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI
- 1 winwnsyn mawr, wedi’i dorri’n fân
- 4 ewin o garlleg, wedi’u torri’n fân
- 1 llwy fwrdd o saws Worcester
- 400g tun o domatos cyfan
- 2 llwy de o berlysiau cymysg
- 1 llwy de o gwmin
- 1-2 llwy de o bowdr tsili (dewiswch chi faint)
- 1 llwy de o baprica
- 1 llwy fwrdd o biwrî tomato
- Halen a phupur i roi blas
- Olew i ffrio
- 4 tortilla mawr gwenith cyflawn
- 100g o gaws cheddar Cymreig wedi’i gratio
- 2 sibolsyn, wedi’u torri’n fân
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1974 KJ
- Calorïau: 470 kcals
- Braster: 20 g
- Sy’n dirlenwi: 9.7 g
- Haearn: 6.0 mg
- Sinc: 7.2 mg
- Carbohydradau: 34 g
- Sy’n siwgro: 7.6 g