- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
- Mewn powlen rhowch y sleisys o datws, winwnsyn, rhosmari a halen a phupur, gan gymysgu’r cyfan.
- Rhowch y cynhwysion ar waelod padell neu ddysgl rostio fawr (ac sy’n ddigon mawr i’r goes gyfan). Ychwanegwch y sleisys o ellyg a’u rhoi rhwng y tatws.
- Pwyswch y goes a chyfrifwch yr amser coginio: wedi’i rostio’n weddol – 25 munud am bob 450g/500g a 25 munud ychwanegol, wedi’i rostio’n dda – 30 munud am bob 450g/500g a 30 munud ychwanegol.
- Rhowch y goes ar ben y tatws, arllwyswch y seidr drosti a rhowch y stoc yn y ddysgl.
- Gorchuddiwch â ffoil a choginiwch am hanner yr amser gyda’r ffoil a gweddill yr amser heb y ffoil.
- Gweinwch gyda llysiau tymhorol wedi’u stemio.
Coes Cig Oen Cymru gyfan gyda rhosmari a gellyg mewn seidr gellyg
- Amser paratoi 15 mun
- Amser coginio 1 awr 50 mun
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- 1 goes Cig Oen Cymru PGI, sydd tua 1.5kg
- 4 taten maint canolig, wedi’u pilio a’u sleisio
- 1 winwnsyn mawr, wedi’i sleisio
- 1 sbrigyn mawr o rosmari ffres, wedi’i dorri
- Halen a phupur du
- 2 ellygen, wedi’u sleisio
- 300ml o seidr gellyg
- 150ml o stoc cig oen
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 2559 KJ
- Calorïau: 613 kcals
- Braster: 31 g
- Sy’n dirlenwi: 13.4 g
- Halen: 1.3 g
- Haearn: 4.5 mg