- Twymwch y popty ymlaen llaw i 180ºC / 160ºC ffan / Nwy 4.
- Twymwch ychydig o olew mewn padell fawr, ychwanegwch y briwgig, y winwns a’r garlleg, a’u ffrïo nes eu bod yn frown.
- Ychwanegwch y passatta, y tomatos, y powdwr tsili, y courgette, y madarch a’r halen a phupur.
- Mwynhewch yr arogl hyfryd a’i adael i fudferwi ar wres isel am ryw 10 munud.
- Cymrwch bob tortilla, rhowch lwyaid go dda o’r gymysgedd ar un ochr a’i wasgaru, cyn rholio’r cyfan.
- Rhowch y tortillas wedi’u llenwi yn daclus yn y ddysgl, eu gorchuddio â chaws a phobi am 15 munud nes bod y caws wedi toddi’n euraidd.
- Gweinwch gyda salad tymhorol, colslo a hufen sur.
Tortillas blawd pob gyda briwgig Cig Eidion Cymru sbeislyd
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 30 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 450g o friwgig Cig Eidion Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n fras
- 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
- 300ml o passata
- 400g o domatos tun wedi’u torri
- 2 lwy de o bowdwr tsili
- 1 courgette, wedi’i dorri’n giwbiau bach
- 50g o fadarch, wedi’u sleisio
- Pupur a halen
- 8 tortilla blawd
- 100g o gaws cheddar aeddfed, wedi’i gratio
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1755 KJ
- Calorïau: 420 kcals
- Braster: 17 g
- Sy’n dirlenwi: 5 g
- Halen: 1.5 g
- Haearn: 2.3 mg