- Rhowch halen a phupur ar y golwythion a’u rhoi ar badell grilio. Rhowch nhw o dan gril wedi’i dwymo’n barod a’u coginio am 8-10 munud bob ochr tan eu bod yn frown ac wedi’u coginio’n drylwyr.
- Bum munud cyn diwedd y cyfnod coginio, cymysgwch yr olew olewydd a’r jeli mintys mewn dysgl fach nes eu bod wedi cyfuno ac yn feddal.
- Rhowch lwyaid o’r gymysgedd olew a mintys ar ben y golwythion, a’u rhoi yn ôl o dan y gril nes eu bod yn frown.
- Yn y cyfamser, rhowch yr olew llysiau a’r menyn mewn padell a’u meddalu. Ychwanegwch y tatws newydd wedi’u coginio, y garlleg a’r madarch i’r badell. Coginiwch nes bod y tatws yn frown a chrensiog, a’r madarch wedi meddalu.
- Gweinwch gyda salad tymhorol a thaenwch lwyaid o sudd o’r badell dros y cwbl.
Golwythion lwyn Cig Oen Cymru a mintys
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 20 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4-6 o olwythion lwyn Cig Oen Cymru PGI heb lawer o fraster
- 1 llwy de o olew olewydd
- 2 lwy fwrdd o jeli mintys
- 1 llwy fwrdd o olew llysiau
- 25g o fenyn
- 900g o datws newydd, wedi’u coginio a’u torri’n hanner
- 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu’n fân
- 100g o fadarch cymysg
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1871 KJ
- Calorïau: 445 kcals
- Braster: 20 g
- Sy’n dirlenwi: 8.0 g
- Halen: 0.5 g
- Haearn: 3.0 mg