
Ingredients
- 450g o stêcs coes neu lwyn Cig Oen Cymru PGI, wedi’u torri’n stribedi
- Halen a phupur
- 2 lwy fwrdd o olew hadau sesame, wedi’u crasu
- Bwnsiad o sibols, wedi’u sleisio’n denau
- 2 lwy de o sinsir ffres, wedi’i gratio
- 3 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- 240ml o stoc cyw-iâr neu lysiau
- 50g o siwgr brown tywyll meddal
- 2 lwy fwrdd o saws soi
- 2 lwy fwrdd o flawd corn
- 2 lwy de o finegr gwin reis
- ½ llwy de o naddion tsili
- 1 pupur coch, wedi’i sleisio’n denau
- 2 pak choi, wedi’u sleisio’n denau
- 1 tsili coch wedi’i sleisio, heb yr hadau
- 50g o gnau daear wedi’u rhostio, wedi’u torri
- Bwnsiad bach o goriander, wedi’i dorri’n fras
- 1 leim, croen a sudd
- 400g o reis jasmine, wedi’i goginio mewn tun o laeth coconyt
20
Cooking Time
25
Prep Time
4
Serves
- Coginiwch y reis mewn tun o laeth coconyt ac ychydig o ddŵr os oes angen.
- Cynheswch wok neu badell ffrio.
- Rhowch halen a phupur ar y stribedi o gig oen. Ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew i'r badell a, phan fydd yn boeth, ychwanegwch y stribedi cig oen a'u brownio ar wres uchel. Tynnwch y cig o'r badell gyda llwy dyllog a'i roi o'r neilltu mewn powlen.
- Ychwanegwch y sibols, y sinsir a'r garlleg i'r badell. Coginiwch gan eu troi am ychydig funudau.
- Mewn powlen, cymysgwch y stoc, y siwgr, y saws soi, y blawd corn, y finegr a'r naddion tsili. Arllwyswch y gymysgedd i'r badell a chodwch i'r berw. Trowch y gwres i lawr a mudferwch am 2 funud, yna ychwanegwch y cig oen.
- Mewn padell arall, ffrïwch y pupur coch a'r pak choi yn yr olew sy'n weddill am 2 funud.
- Gweinwch ar unwaith ar blât mawr. Codwch y reis ar y plât â llwy yna'r gymysgedd cig, a gorffennwch gyda'r pupur coch a'r pak choi. Yna ysgeintiwch ychydig o'r coriander a'r cnau daear, y tsili coch wedi'i sleisio a chroen a sudd y leim dros y cyfan.