- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 180°C / 160°C ffan / Nwy 4.
- Paratowch y marinâd drwy gyfuno’r finegr, y mêl, y mwstard, y garlleg a’r halen a’r pupur. Ychwanegwch y darnau cig oen a rhwbiwch y marinâd i mewn i’r cig a’r braster wedi’i ricio. Gadewch iddo sefyll am o leiaf 30 munud.
- Cyfunwch yr olew, y rhosmari wedi’i dorri, yr halen a’r pupur yna ychwanegwch y tatws a chymysgwch yn dda.
- Cynheswch badell (y gellir ei rhoi yn y popty), ychwanegwch yr olew a ffriwch y ffolennau cig oen ar ochr y braster am ychydig funudau nes mae’n frown yna trowch i frownio pob ochr. Ychwanegwch y tatws i’r badell, ffrïwch nes maent wedi brownio’n ysgafn. Ychwanegwch y sbrigau rhosmari ac yna trosglwyddwch i’r popty i orffen coginio am oddeutu 20-25 munud nes mae’r tatws wedi coginio.
- Gadewch i’r cig sefyll am 5 munud cyn ei gerfio. Wrth iddo sefyll, paratowch y grefi ac ychwanegwch y jeli cyrens cochion iddo.
- Gweinwch gyda llysiau gwyrdd e.e. brocoli
Cig Oen Cymru â sglein balsamaidd gyda thatws rhosmari
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 1 awr
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 4 darn unigol o ffolennau bach Cig Oen Cymru PGI, braster wedi’i ricio
- 1 llwy fwrdd o olew, ar gyfer ffrio
- 450g o datws bach, wedi’u haneru
- 1 llwy fwrdd o olew, ar gyfer gorchuddio’r tatws
- 1 llwy fwrdd o rosmari ffres, wedi’i dorri
- Halen môr a phupur du
- Sbrigau o rosmari
- 1 llwy fwrdd o jeli cyrens cochion i weini, neu ychwanegwch at y grefi
Ar gyfer y marinâd:
- 125ml o finegr balsamaidd
- 2 lwy fwrdd o fêl clir
- 1½ llwy fwrdd o fwstard grawn cyflawn
- 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
- Halen a phupur
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1951 KJ
- Calorïau: 465 kcals
- Braster: 20 g
- Sy’n dirlenwi: 7.2 g
- Halen: 0.44 g
- Haearn: 3.2 mg
- Sinc: 7 mg
- Protein: 42.9 g
- Ffeibr: 2.3 g
- Carbohydradau: 29.2 g
- Sy’n siwgro: 11.69 g