Oes un bwyd y dylem fod yn ei fwyta a all roi ein holl anghenion dietegol i ni? Yn fyr, yr ateb yw ‘na’; nid oes unrhyw fwyd sengl yn cynnwys yr holl faetholion sydd eu hangen arnom ar gyfer iechyd da. Y ffordd symlaf i ffordd iach o fyw yw bwyta amrywiaeth o wahanol fwydydd.

Fodd bynnag, mae un bwyd a all ein helpu i gadw golwg ar ein cymeriant o haearn, potasiwm, magnesiwm, sinc, Fitaminau B, Fitamin D ym mhob cam o fywyd: cig coch.
Wedi’i bacio â’r fitaminau a’r mwynau hanfodol hyn, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster yn ei graidd ein helpu ni drwy gydol ein bywydau i gadw’n heini ac yn iach.
Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi’i goginio’r wythnos fod yn ganolog i ddeiet iach a chytbwys.
Mae cig coch yn naturiol gyfoethog mewn protein ac mae’r fitaminau a’r mwynau sydd ynddo yn cynnig llawer o fanteision iechyd. Er enghraifft, gall gefnogi rheoli pwysedd gwaed ein cyrff; iechyd y llygaid a’r croen; iechyd yr esgyrn; swyddogaeth y cyhyrau a’r nerfau; iechyd atgenhedlu; gwallt ac ewinedd; cludo ocsigen i’n hatal rhag teimlo’n flinedig; ynghyd â swyddogaeth imiwnedd a swyddogaeth wybyddol. Gall hefyd ein helpu gyda chanolbwyntio a gall gynnig egni cynaliadwy i ni i fwrw ymlaen â’n bywydau bob dydd.
Mae cig coch yn cynnwys y mathau o haearn a sinc sy’n cael eu hamsugno’n well gan ein cyrff na’r rhai a geir mewn unrhyw ffynonellau dietegol eraill. Mae haearn hema o gig coch yn cael ei amsugno 2-6 gwaith yn well na ffynonellau haearn nad ydynt yn hema.
Mae bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus fel rhan o ddeiet cytbwys iach yn ffordd ardderchog o wneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr hyn sydd ei angen arnoch chi ar gyfer iechyd da – fel y bwriadodd natur.