Mynd i'r cynnwys

Yr hanes tu ôl i’r bwyd

https://youtu.be/cokf-Crf2tw Er mwyn gallu gwerthfawrogi’r cariad a'r angerdd sydd ynghlwm â chynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru PGI, fe aethom i ymweld â Katie Davies yn ei fferm thir uchel yn Nantymoel i ddysgu mwy am yr hyn y mae ffermio yn ei olygu iddi hi. Mae ein ffermwyr yn hanfodol i fywyd a ffyniant cymunedau gwledig, ynghyd â chwarae rhan holl bwysig wrth gynnal yr amgylchedd a'n tirweddau hardd. Yn hytrach na bod yn swydd gyffredin, mae ffermio yn ffordd o fyw y mae rhai fel Katie yn ymroi yn llawn iddo, gyda phob owns o'u hangerdd a'u hymroddiad yn helpu i greu Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig o ansawdd uchel sydd yn destun cenfigen ar draws y byd. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r fideo gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau cofnodi hanes Katie.

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025