Mynd i'r cynnwys

Wythnos Genedlaethol y Barbeciw – 3 rheswm da i grilio yn yr ha’

Wythnos Genedlaethol y Barbeciw

O 5 - 18 Gorffennaf, mae Wythnos Genedlaethol y Barbeciw 2021 yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, a pha ffordd well o fynd i ysbryd yr ŵyl na gyda blasau bendigedig ar eich barbeciw? Gallwch chi goginio bron unrhyw beth arno - y mwyafrif o bysgod, bwyd môr, llysiau, rhai cawsiau a hyd yn oed ffrwythau. Ond yr hyn sydd wir yn rhagori yw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Felly gwisgwch eich ffedog, cydiwch yn yr offer coginio a dechreuwch grilio!

Brechdan i’r Brenin II

Dim bod angen rheswm i danio’r barbeciw ond ydy, mae'r gystadleuaeth frechdan stêc orau, fwyaf blasus yn ei hôl, ynghyd â’n beirniad, Chris ‘Brenin y Barbeciw’ Roberts. Ydych chi'n meddwl bod gennych y rysáit brechdan stêc orau un? A allai eich cais fachu sylw a pharch y cogydd cig campus? Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth y llynedd, rydyn ni wedi cynhyrfu pethau ychydig, felly eleni rydyn ni'n cyflwyno mwy o gategorïau gan gynnwys categori barbeciw newydd sbon. Ewch draw i'n tudalen gystadlu i weld beth allech chi ENNILL a sut i gystadlu mewn 4 cam hawdd. Pob lwc! https://youtu.be/VlX_yq4-3ko  

Syniadau am ryseitiau tanbaid

Ydych chi wedi diflasu ar y bwyd barbeciw arferol? Wel, beth am roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol? Beth am ein Cebabau Cig Oen Cymru â sbeis sumac gyda couscous blodfresych neu efallai Salad Cig Eidion Cymru sitrws? [caption id="attachment_4575" align="alignleft" width="300"] Cebabau Cig Oen Cymru â sbeis sumac[/caption] [caption id="attachment_4575" align="alignright" width="323"] Salad Cig Eidion Cymru[/caption]               I gael mwy o ysbrydoliaeth am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar y barbeciw, ewch i'n tudalennau rysáit.  

Cyngor campus ar gyfer grilio gwych

Mae brenin barbeciw Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn deall ei bethau o ran cael y gorau o’ch barbeciw, dilynwch ei gynghorion isod a bydd gwledd yn eich disgwyl!  
  1. Byddwch yn drefnus: Sicrhewch fod eich barbeciw a'ch offer grilio yn lân cyn i chi ddechrau coginio. Paratowch/marinadwch y bwyd ymlaen llaw.
  2. Taniwch hi: Byddwch yn ddiogel. Gosodwch y barbeciw i ffwrdd o adeiladau a pheidiwch byth â defnyddio tanwydd i danio’r barbeciw. Peidiwch byth â gadael y barbeciw heb oruchwyliaeth pan fydd plant yn bresennol. Gadewch i'r tân losgi am o leiaf 30 munud cyn dechrau coginio, pan fydd y fflamau wedi diffodd - dylai'r glo fod yn llwyd-wyn gyda llewyrch coch oddi tano.
  3. Ychwanegwch flas: Yn ogystal â marinadu bwyd, mae ychwanegu naddion pren derw neu hicori i'r siarcol yn ychwanegu blas. Mae perlysiau hefyd yn gweithio, fel sbrigiau o rosmari y gellir eu defnyddio hefyd yn lle sgiwer pren.
  4. Coginiwch yn hyderus: Defnyddiwch thermomedr cig i sicrhau bod y cig yn cael ei goginio drwyddo. Peidiwch â gwasgu byrgyrs yn fflat wrth goginio gan fod hyn yn gwasgu'r braster allan sydd nid yn unig yn gwneud byrgyr sych, ond hefyd yn creu fflamau a fydd yn llosgi'ch bwyd.

Mwy fel hyn


© Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales 2025