Byw’n iach heb fawr o strach
Byw bywyd iach gyda chig cochMae gofalu am ein hiechyd yn bwysig, ac yn enwedig yn ystod yr arddegau pan fydd ein cyrff yn tyfu ac yn datblygu. Gall bod yn ystyriol o’r hyn rydyn ni’n ei fwyta a pha mor aml rydyn ni’n gwneud ymarfer corff yn ystod y cam hwn o’n bywydau ein helpu i sicrhau ein bod yn byw’n hapus ac yn iach yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi ymuno â’r tîm rygbi proffesiynol o Lanelli, y Scarlets, i ddangos i chi sut i gadw’n heini a gwneud y gorau o gig coch fel rhan o ddiet cytbwys iach.
Gydag awgrymiadau gwych ar sut i fwyta’n iach, cylchedau hyfforddi, cynllunio prydau bwyd, ryseitiau cyflym a hawdd llawn maetholion a mwy, gwnewch yn siŵr eich bod yn bachu’ch copi o ‘Eich canllaw chi i fyw’n iach heb fawr o strach’!
Cyngor campus ein canllaw
Er mwyn helpu lansio’r canllaw, aeth brenin y barbeciw a’r seren deledu Chris ‘Flamebaster’ Roberts draw i Barc y Scarlets i goginio stêcs Cig Eidion Cymru i’r tîm… gwyliwch y fideo yma.
Pam mae maeth yn bwysig ar gyfer iechyd da?
Mae deall sut mae gwahanol fwydydd o fudd i’r corff yn allweddol i reoli eich ffitrwydd a’ch lles. O fwydydd sy’n helpu gyda stamina i fwydydd sy’n helpu gydag adferiad – mae’r wybodaeth hon yn hollbwysig.
Mae gan bob fitamin, mwyn a maetholyn rôl benodol i’w chwarae yn y corff dynol, a gallwch gael popeth sydd ei angen arnoch os ydych yn dilyn diet cytbwys iach.
Allwch chi daclo’r ryseitiau hyn?
Gwnewch argraff ar eich ffrindiau a’ch teulu gyda’r ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru hyn sy’n llawn maetholion.
Mae bachwr y Scarlets, Ken Owens, yn dangos i ni sut mae’n gwneud ei chow mein Cig Eidion Cymru a llysiau, tra bod y mewnwr Kieran Hardy yn rhannu ei rysáit tsili Cig Eidion Cymru trwchus.
Chow Mein Ken Owens
“Mae’r chow mein ‘ma yn hawdd iawn i’w wneud. Pan welwch gynhwysyn o ansawdd uchel, wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy fel Cig Eidion Cymru, rydych chi’n gwybod o ble mae’n dod. Mae hynny’n hynod bwysig i ni fel chwaraewyr rygbi.”
Tsili Cig Eidion Cymru Kieran Hardy
“Yr hyn dwi’n hoffi am y rysáit ‘ma yw y galla i ychwanegu’r holl gynhwysion i’r popty araf, bwrw ymlaen â hyfforddi am ychydig oriau, ac mae’n barod amdana i pan fydda i’n cyrraedd adref i helpu gyda’m hadferiad hyfforddi.”
O’r cae i’ch cegin
O ran rheoli eich ffitrwydd, mae meddu ar sgiliau coginio sylfaenol yr un mor bwysig â gwella eich sgiliau ar y cae.
Bydd gwybod yn union pa fwyd rydych chi’n ei roi ar eich plât a sut i’w baratoi a’i goginio yn ei gwneud hi’n llawer haws (ac yn well i chi), yn enwedig pan ddaw’n fater o baratoi pryd cyflym ar ôl ymarfer.
Cnoi cil…
Oeddech chi’n gwybod… bod bwyd yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol sy’n chwarae rhan bwysig ym mhob agwedd ar iechyd a lles cyffredinol, ac yn gallu cael effaith gadarnhaol ar eich meddwl?
Maetholion mawreddog
Oeddech chi’n gwybod… bod cig coch yn atodiad gwych o fitaminau a mwynau hanfodol, gan roi popeth sydd ei angen ar eich corff yr un pryd!