- Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160°C / 140°C ffan / Nwy 3-4.
- Rhowch yr ysgwydd cig oen mewn tun rhostio dwfn.
- Cymysgwch y garlleg, yr hadau a’r pupur a halen mewn breuan a phestl a’u gwasgu’n ysgafn. Ychwanegwch yr olew, croen a sudd y lemwn a pherlysiau ffres.
- Gwnewch rai holltau ar arwyneb yr ysgwydd a rhwbio’r cymysgedd o berlysiau drosto. Ychwanegwch y dŵr at y tun.
- Rhowch yr ysgwydd yn y popty am 45 munud tan y bydd y crwst wedi brownio. Yna, rhowch ffoil dros y cig a’i roi yn ôl yn y popty am tua dwy awr a hanner, hyd nes y bydd y cig yn dyner iawn, gan ei frasteru bob hyn a hyn.
- Tynnwch yr ysgwydd o’r popty a’i rhoi i’r naill ochr am 20 munud. Gan ddefnyddio dwy fforc, tynnwch / derniwch y cig oddi ar yr asgwrn.
- Yn flasus wedi’i weini mewn bara fflat gyda dip iogwrt mintys a salad crensiog, neu wedi’i dafellu a’i weini gyda llysiau a grefi, a hynny fel ysgwydd rost o gig oen.
Ysgwydd o Gig Oen Cymru wedi’i thynnu ac iddi grwst perlysiau
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 4 awr
- Ar gyfer 5+
Bydd angen
- Ysgwydd o Gig Oen Cymru PGI, ar yr asgwrn (gellir defnyddio cig yr ysgwydd heb esgyrn)
- Dyrnaid o ddail teim ffres, wedi’u torri
- 1 sbrigyn o rosmari, wedi’i dorri
- 1 llwy fwrdd o olew
- 1 lemwn, y croen a’r sudd
- 4 ewin garlleg, wedi’u torri’n fras
- 1 llwy fwrdd o hadau cwmin
- 1 llwy de o hadau ffenigl
- ½ llwy de o bupur du garw
- ½ llwy de o halen môr
- 100ml o ddŵr