- Twymwch y popty i 200˚C / 180°C ffan / Nwy 6.
- Ysgeintiwch ychydig o flawd ar fwrdd, a rholiwch y crwst arno i faint hirsgwar 20 x 30cm.
- Gyda chyllell, gwnewch farc ysgafn tua 2mm o’r ochrau, a rhowch y crwst ar glawr pobi mawr.
- Yna, taenwch y past tomato neu besto ar hyd y crwst gyda haen o sbinaets ac yna’r sleisys o courgette, y briwgig cig oen, y caws feta a’r pupur a halen, gan adael ymyl o 2cm yn wag.
- Rhowch y darten yn y popty am 30-35 munud, tan fod y llenwad wedi coginio a’r crwst yn euraidd.
- Gweinwch gyda salad a thatws newydd.
Tarten Cig Oen Cymru, sbinaets a feta
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 35 mun
- Ar gyfer 4
Bydd angen
- 225g o friwgig Cig Oen Cymru PGI isel mewn braster, wedi’i dorri’n fân
- Paced 500g o grwst pwff
- 1 llwy fwrdd o bast tomatos wedi’u sychu yn yr haul, neu besto coch
- 2 lond llaw fawr o sbinaets, wedi’u golchi
- 1 courgette, wedi’i sleisio’n denau iawn
- 100g o gaws feta, wedi’i falu
- Pupur a halen
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 2655 KJ
- Calorïau: 636 kcals
- Braster: 39.2 g
- Sy’n dirlenwi: 17.5 g
- Halen: 2.7 g
- Haearn: 2.75 mg