facebook-pixel

Syrlwyn Nadoligaidd Cig Eidion Cymru wedi’i rhostio gyda chnau castan, stilton a chennin syfi

  • Amser paratoi 15 mun
  • Amser coginio 2 awr
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • Darn syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI
  • 1 nionyn, wedi’i dorri’n fras
  • 1 ewin garlleg, wedi’i malu
  • 6 selsig cig eidion, gyda’r crwyn wedi’u tynnu
  • 50g (2oz) briwsion bara naturiol sych
  • 75g (3oz) Cnau castan wedi’u plicio dan wactod, wedi’u torri’n fân
  • 75g (3oz) caws Stilton, wedi’i torri i fyny
  • 30ml (2tbsp) cennin syfi ffres, wedi’u torri
  • 300ml (1/2pt) Gwin cynnes (opsiynol i’r grefi)

Dull

Amser coginio:       Prin  – 20 munud fesul 450g/½kg (1lb) + 20 munud ychwanegol

Canolig – 25 munud fesul 450g/½kg (1lb) + 25 munud ychwanegol

Wedi’i coginio’n dda – 30 munud fesul 450g/½kg (1lb) + 30 munud ychwanegol

Tymheredd:          Nwy 4, 180˚C, 350˚F

*caniatewch tua 100g o gig y pen os yw’r cymal yn ddi-asgwrn neu 225g os oes asgwrn yn y cig

Cynheswch y popty i 180˚C / 350˚F / nwy marc 4

Cynheswch olew a meddalu’r winwnsyn a’r garlleg yn ysgafn. Rhowch mewn powlen a gadewch iddo oeri ychydig. Ychwanegwch y cig selsig cig eidion, briwsion bara, cnau castan, stilton a chennin syfi. Cymysgwch yn dda a siapiwch hanner y cymysgedd yn siapiau selsig fach.

Cymerwch gyllell finiog yn ofalus a gwnewch hollt fach i’r boced fraster trwy uniad y cig. Yna cymerwch lwyau bach o’r stwffin a’u gwthio i’r boced a grëwyd.

Pwyswch eich cig a chyfrifwch yr amser coginio fel uchod. Rhowch y cig mewn hambwrdd rhostio bas wedi’i leinio â ffoil a choginiwch am amser penodol.

Ychwanegwch y ‘selsig’ i’r popty 30 munud cyn diwedd yr amser coginio.

Tynnwch y cig o’r popty a gadewch iddo sefyll am o leiaf 10-15 munud.

Arllwyswch yr holl sudd i mewn i sosban fach a gwin cynnes a’i fudferwi’n gyflym a’i leihau i’r trwch a ddymunir.

Gweinwch dafelli trwchus o gig eidion gyda stwffin, pwdinau Swydd Efrog a llysiau tymhorol.

Share This