
15
Cooking Time
10
Prep Time
4
Serves
- Coginio’r polenta gan ddefnyddio pedair rhan o ddŵr i un rhan o bolenta. Chwisgio’r polenta i mewn i ddŵr berw hallt, yna gostwng y gwres a chwisgio neu gymysgu am ryw 10 munud.
- Trosglwyddo’r polenta sydd wedi coginio i ddysgl fas â ffilm cling i galedu (yn ddelfrydol dylai’r polenta fesur tua modfedd o uchder yn y ddysgl).
- Ar ôl tua awr a hanner, dechrau rhostio’r tomatos bach melys mewn ffwrn ar tua 180°
- Pan fo’r polenta wedi caledu (ar ôl rhyw 2 awr), ei dorri’n sglodion trwchus tua 3” x 1”. Gorchuddio’r sglodion polenta yn ysgafn mewn blawd a chael gwared â’r blawd dros ben.
- Twymo joch o olew olewydd mewn padell ffrio neu radell cyn ychwanegu’r stêcs heb bupur na halen. Eu coginio am ryw 10 munud, yn dibynnu ar ba mor dda rydych chi eisiau nhw wedi eu gwneud, ac ychwanegu pupur a halen tua’r diwedd yn hytrach nag ar y dechrau rhag ofn i’r pupur losgi.
- Tynnu’r stêcs allan o’r badell a’u rhoi i orffwys mewn lle cynnes, gan roi ambell dalp o fenyn drostyn nhw.
- Pan fo’r stêcs yn gorffwys, ffrio’r sglodion polenta mewn olew dwfn ar 180°C tan eu bod ychydig yn euraidd a chrimp. Ychwanegu digon o halen môr a’u gweini gyda’r stêcs syrlwyn blasus, y tomatos rhost a’r salad berwr.