- Twymo padell ffrio gydag ychydig o olew. Sicrhau bod y cig ar dymheredd yr ystafell cyn rhoi ychydig o bupur a halen arno a’i osod yn y badell – dylech glywed sŵn hisian.
- Ychwanegu’r garlleg, teim ac ambell dalp o fenyn ar ben y stêcs a’u ffrio, gan eu troi’n rheolaidd er mwyn coginio’r ddwy ochr cystal â’i gilydd yn ogystal â’r braster, a seimio’r menyn sydd wedi torri ar y stêcs. Cyngor: bydd ychwanegu’r menyn ar ôl yr olew yn golygu na fydd y menyn yn llosgi a bydd yn cael ei amsugno’n well i mewn i’r cig.
- Pan fo’r stêc wedi coginio at eich dant, ei thynnu allan o’r badell a’i gadael i orffwys am 5-10 munud mewn lle cynnes. Nawr mae’n amser coginio’r tameidiau ochr. Cyngor: defnyddio’r un badell ffrio heb ei draenio na’i glanhau er mwyn gallu defnyddio’r blasau sydd dros ben a’r darnau bach crimp.
- Ffrio’r winwns tan eu bod yn feddal, gan grafu’r darnau wedi eu carameleiddio o waelod y badell a’u cymysgu i mewn i gael cymaint o flas â phosibl. Pan fo’r winwns bron yn barod, ychwanegu’r madarch. Cyngor: peidio ag ysgwyd y badell na chymysgu ar ôl ychwanegu’r madarch, oherwydd mae angen i’r dŵr ddod allan o’r madarch ac anweddu wrth iddo fwrw’r badell boeth.
- Ychwanegu’r asbaragws ac ambell dalp o fenyn i sosban arall, gyda digon o ddŵr i orchuddio ei gwaelod. Ychwanegu halen a choginio am 6 munud ar y mwyaf. Cyngor: ni ddylid berwi asbaragws, mae’n llawer iawn mwy blasus os caiff ei goginio yn ei suddion ei hun fel hyn.
- arllwys suddion o’r stêc sy’n gorffwys yn ôl i mewn i’r badell ffrio gyda’r winwns a’r madarch. Unwaith i’r madarch goginio, ychwanegu’r garlleg gwyllt a thynnu’r badell o’r gwres fel bod y garlleg yn cadw ei liw a’i flas. Cyngor: bydd y gwres sydd dros ben o’r winwns a’r madarch yn parhau i goginio’r dail am ryw hanner munud arall.
- Rhowch yr holl gynhwysion ar blat cynnes a’u gweini. Os ydych chi’n defnyddio saws rhuddygl poeth neu fwstard, ei daenu ar un ochr y stêc a’i gweini gydag ochr y saws yn wynebu i lawr er mwyn i’r blas fod yn gytbwys. Cyngor: am bryd sy’n edrych fel bwyd o fwyty, pentyrru’r madarch a’r winwnsyn ar ben y stêc a gweini’r asbaragws ar yr ochr, gan ychwanegu ychydig o halen i orffen.
Stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru gydag asbaragws, madarch, winwns a garlleg gwyllt gan Bryn Williams
- Amser paratoi 10 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 stêcs syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI, heb dynnu’r braster
- Halen a phupur
- Joch o olew olewydd
- Ambell ewin garlleg, wedi eu malu yn eu crwyn
- Llond llaw o deim ffres
- Ambell dalp o fenyn
- 1 winwnsyn coch, wedi ei sleisio
- 150g madarch, wedi eu sleisio
- Clwstwr o asbaragws (neu gennin bychain / ffa gwyrdd)
- Llond llaw fach o arlleg gwyllt, wedi eu rhwygo’n fras
- 1 llwy de o saws rhuddygl poeth neu fwstard er mwyn gweini (dewisol)