- Rhowch y stêcs oen mewn dysgl fas. Ychwanegwch y past Thai gwyrdd, y sinsir wedi’i gratio a’r garlleg.
- Cymysgwch a’i rwbio dros ddwy ochr y stêcs. Gorchuddiwch nhw a’u gadael nes eu bod yn barod i’w coginio.
- Paratowch y salad – torrwch y tsili a’r sinsir yn fân neu eu malu mewn pestl a mortar, nes eu bod yn llyfn. Ychwanegwch yr olew a’r pupur du, a’u cymysgu â’i gilydd.
- Ychwanegwch y tomatos, eu cymysgu a’u gadael i sefyll yn nhymheredd yr ystafell nes bo’r stêcs yn barod.
- Twymwch blât gridyll neu gril o flaen llaw a choginio’r stêcs am ryw 4-6 munud bob ochr yn dibynnu ar drwch y stêc.
- Wedi iddyn nhw goginio, rhowch nhw ar blat, ychwanegwch fymryn o fenyn ar ben pob stêc a gadael iddyn nhw sefyll am 3-5 munud.
- Gweinwch y stêcs gyda suddion y menyn a’r salad sinsir a thomato.
Stêc coes Cig Oen Cymru Thai gyda salad tomato a sinsir
- Amser paratoi 20 mun
- Amser coginio 15 mun
- Ar gyfer 2
Bydd angen
- 2 stêc coes Cig Oen Cymru PGI
- 2 llwy de past Thai gwyrdd
- 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
- ½ llwy de sinsir wedi’i gratio
- 1 tsili gwyrdd, wedi tynnu’r hadau a’i dorri’n fân
- 2.5cm sinsir ffres, wedi’i blicio a’i dorri’n fân
- Talp bychan o fenyn
- 1 llwy de olew olewydd
- Pupur du
- 75g tomatos ceirios wedi eu haneru
Gwybodaeth am faeth
- Ynni: 1816 KJ
- Calorïau: 435 kcals
- Braster: 25.9 g
- Sy’n dirlenwi: 10.7 g
- Halen: 0.84 g
- Haearn: 4.9 mg