
Cynhwysion
- 2 x stêc coes Cig Oen Cymru heb asgwrn
- 1 llwy fwrdd o olew
- Pinsiad o bowdwr garlleg
- Halen a pupur
- Pinsiad o berlysiau sych
I’r chimichurri:
- Llond llaw o goriander
- Llond llaw o bersli
- 2 ewin garlleg
- 1 sialot
- 1 tsili coch, heb hadau
- 5 llwy fwrdd o olew olewydd
- 2 llwy fwrdd o finegr gwin coch neu gwyn
10
Amser coginio
5
Amser paratoi
2
Yn gweini
- Rhowch yr olew dros y steciau, yna taenwch y sesnin a’r perlysiau.
- Cynheswch y ffrïwr aer i 200°C
- Rhowch y steciau yn y fasged a choginiwch am tua 4-5 munud ar bob ochr yn dibynnu sut rydych chi’n hoffi eu coginio.
- Gadewch i orffwys am 4 munud, llwywch unrhyw sudd drostynt.
- Ar gyfer y chimichurri, rhowch yr holl gynhwysion mewn cymysgydd bach a’u cymysgu nes eu bod wedi’u torri’n fân.
- Gweinwch a mwynhewch!
