
Cynhwysion
- 2 stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru (gellir defnyddio stêcs eraill)
- 1 llwy fwrdd o olew
- Lwmp o fenyn
- Sesnin
Ar gyfer y saws:
- 1 llwy fwrdd o olew
- 25g o fenyn
- 1 sialóts, wedi’i dorri’n fân
- 4 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
- 2 lwy fwrdd o frandi
- 125 ml o hufen dwbl
- 2 lwy fwrdd o fwstard Dijon
- Teim ffres
- ¼ llwy de o bupur du
- ½ ciwb stoc cig eidion, wedi’i friwsioni
15
Amser coginio
30
Amser paratoi
2
Yn gweini
- Tynnwch y stêcs o'r oergell 30 munud cyn coginio.
- Gwnewch y saws – rhowch yr olew a'r menyn mewn padell, yna ychwanegwch y sialóts a'r garlleg a'u ffrio'n ysgafn am ychydig funudau nes eu bod wedi meddalu.
- Ychwanegwch y brandi a'i droi am ychydig funudau.
- Ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill a'u troi'n dd, yna dewch â nhw i'r berw, gan gadw ar wres isel nes bod y stêcs wedi'u coginio.
- Cynheswch y badell nes ei bod yn boeth, ac ychwanegwch yr olew. Sesnwch y stêcs a'u rhoi yn y badell boeth.
- Coginiwch ar wres uchel am 2 funud ar bob ochr am ganolig brin (3-4 munud am ganolig a 5-6 munud am wedi'u coginio'n dda).
- Trowch y stêcs ac ychwanegwch y menyn. Bastiwch y stêcs gyda'r menyn wedi'i doddi.
- Gadewch i'r cig orffwys am 5 munud.
- Gweinwch gyda'r saws garlleg hufennog.
