
Cynhwysion
- 2 × stêc syrlwyn Cig Eidion Cymru PGI
- 150g o reis jasmin
Brocoli sesame
- 200g o frocoli coesyn tendr
- 1 llwy fwrdd o olew sesame
- 1 llwy fwrdd o saws soi ysgafn
- Sudd ½ leim
- Hadau sesame, i addurno
Picl Llysiau Cyflym
- 1 foronen
- ¼ ciwcymbr
- 4 radish
- 2 lwy fwrdd o finegr reis
- 1 llwy de o siwgr
- Pinsied o halen
Dresin ‘Crying Tiger’
- 1 llwy fwrdd o reis jasmin wedi’i dostio
- 1 sialót, wedi’i sleisio’n fân
- 1 tsili coch, wedi’i sleisio’n fân
- 1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
- Sudd 1 leim
- 2 lwy fwrdd o saws pysgod
- 1 llwy de o siwgr brown
- Coriander ffres, wedi’i dorri
15
Amser coginio
15
Amser paratoi
2
Yn gweini
- Sesnwch y steciau yn hael a gadewch iddynt ddod i dymheredd yr ystafell.
- Rinsiwch y reis jasmin nes bod y dŵr yn glir, yna berwch mewn sosban o ddŵr am 10 munud.
- Paratowch y picl llysiau trwy sleisio'r foronen, y ciwcymbr a'r radish yn fân. Ychwanegwch at fowlen gyda'r finegr reis, siwgr a halen, yna rhowch o'r neilltu.
- Tostiwch 1 llwy fwrdd o reis jasmin mewn padell sych nes ei fod yn euraidd, yna malwch gan ddefnyddio pestl a morter neu gymysgydd. Ychwanegwch at fowlen gyda'r sialóts, tsili, garlleg, coriander, sudd leim, saws pysgod a siwgr brown. Cymysgwch yn dda a rhowch o'r neilltu.
- Ffriwch y steciau mewn ychydig o olew at eich dant (tua 3-4 munud yr ochr ar gyfer canolig). Tynnwch o'r badell a gadewch iddynt orffwys ar blât.
- Draeniwch y reis, dychwelwch ef i'r badell oddi ar y gwres, gorchuddiwch â chaead a stemiwch am 5 munud.
- Ffriwch y brocoli mewn padell boeth, yna taflwch olew sesame, saws soi, sudd leim a thaenelliad o hadau sesame drostynt.
- Sleisiwch y steciau sydd wedi gorffwys a llwywch y dresin drostynt. Gweinwch ochr yn ochr â'r reis, eich llysiau wedi'u piclo a'ch brocoli sesame.
